Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.
Sut i ddefnyddio: Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer
Darparir eich gwres a’ch dŵr poeth gan bwmp gwres ffynhonnell aer. Mae modd gweld hwn yn yr ardd fel arfer wrth ochr eich cartref neu yn y cefn.
Gall gymryd ychydig amser i gyfarwyddo â phympiau gwres ffynhonnell aer gan eu bod yn gweithredu ar dymheredd is na mathau eraill o systemau gwresogi.
Maent yn cymryd aer o’r tu allan i wresogi eich cartref, hyd yn oed pan fydd hi’n oer.
Pan fyddwch yn troi’r gwres neu’r dŵr poeth ymlaen, byddwch yn clywed y ffan yn dod ymlaen ac yn teimlo aer oer yn cael ei chwythu allan.
Ar gyfer diogelwch, effeithlonrwydd ac er mwyn cael mynediad i’w wasanaethu, bydd angen cadw’r pwmp gwres yn glir.
Caiff unrhyw bibellau allanol o’r uned ffynhonnell aer i mewn i’ch cartref eu hinswleiddio.
A fyddech gystal â’i ddiogelu rhag unrhyw niwed oherwydd y gallai hynny effeithio ar ba mor effeithlon yw’ch system wresogi.
Os oes gennych chi unrhyw anifeiliaid anwes, a fyddech gystal â sicrhau nad ydynt yn cnoi’r deunydd inswleiddio.
Os bydd hwn yn cael ei ddifrodi, ffoniwch ni ar 0800 052 2526.
Mae’r switsh ynysu yn rheoli’r pŵer i’ch pwmp gwres. Ni ddylech droi hwn i ffwrdd oni bai bod argyfwng. Gallwch reoli’ch gwres gan ddefnyddio’r thermostat a’r mesurau rheoli thermostatig unigol ar eich rheiddiaduron.
Lleolir y thermostat yn y cyntedd fel arfer, ac mae’n dangos dwy falf. Un yw’r tymheredd yn y tŷ ar hyn o bryd, a’r llall yw’r tymheredd yr ydych chi wedi’i osod.
Trowch y deial i newid y tymheredd.
Bydd yn cymryd amser hir i’ch pwmp gwres neidio o 15 i 20 gradd.
Felly cofiwch os byddwch yn troi’r tymheredd i fyny yn rhy gyflym, bydd yn rhaid i’ch pwmp gwres weithio’n galetach i roi hwb i’r tymheredd, ac fe allai hyn gostio mwy i chi.
Argymhellwn eich bod yn newid y gosodiad un neu ddwy radd ar y tro.
Er enghraifft, os yw wedi cael ei osod ar 15, ceisiwch ei droi i fyny i 17. Arhoswch i weld a ydych chi’n teimlo’n gyffyrddus gyda’r tymheredd hwn.
Os na, trowch ef i fyny gradd neu ddwy arall a daliwch ati nes i chi gyrraedd
tymheredd sy’n gyffyrddus i chi.
Ni ddylid fyth diffodd pympiau gwres yn llwyr gan ei bod yn gallu cymryd sawl diwrnod
a chostio swm sylweddol o arian i adfer y gwres yn eich cartref i dymheredd cyffyrddus.
Mae’r brif uned reoli mewn cwpwrdd ger y tanc dŵr poeth fel arfer a dim ond peiriannydd hyfforddedig ddylai newid ei osodiadau mewn unrhyw ffordd yn ystod gwasanaeth blynyddol.
Os bydd eich cyflenwad trydan yn methu, bydd y pwmp gwres yn troi i ffwrdd.
Bydd angen iddo gynhesu ei hun cyn y bydd yn gallu gwresogi eich cartref unwaith eto.
Darllenwch y cyfarwyddiadau oherwydd efallai y bydd hyn yn digwydd yn awtomatig, neu efallai y bydd angen i chi ddewis gosodiad. Os oes gennych chi fesurydd rhagdalu, ceir perygl y bydd y pwmp gwres yn troi i ffwrdd os bydd y mesurydd yn rhedeg allan o arian.
Ceisiwch gadw arian yn eich mesurydd bob amser, neu ystyriwch newid eich mesurydd a thalu biliau misol neu chwarterol yn lle hynny.
Os na fydd eich gwres yn gweithio, sicrhewch bod y switsh ynysu ymlaen yn gyntaf cyn ein ffonio ni ar 0800 052 2526.
Os bydd eich cartref yn rhy gynnes, mae’n fwy cost-effeithiol newid y tymheredd ar reiddiaduron unigol na newid y tymheredd cyffredinol gan ddefnyddio’r thermostat.
Mae gan bob rheiddiadur ei reolaeth thermostatig ei hun gyda gosodiadau o bump sef y cynhesaf, i un sef yr oeraf.
Bydd y gosodiad rhew yn ei droi ei ffwrdd. Fel rheol, dim ond mewn ystafelloedd neu ystafelloedd
gwely nas defnyddir y dylech ostwng y tymheredd.
Byddwch yn sylwi bod gan systemau pwmp gwres reiddiaduron mawr sy’n teimlo’n oer pan fyddwch yn eu cyffwrdd.
Mae hyn yn normal ac nid yw’n golygu bod aer yn y system.
Peidiwch â cheisio diferu eich rheiddiaduron oherwydd y bydd hyn yn creu nam a bydd yn rhaid i beiriannydd ddod allan.
Os bydd gennych chi unrhyw bryderon, ffoniwch ni.