Gyrfaoedd
Rydym yn falch o’n diwylliant, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod Tai Wales & West yn lle gwych i weithio ac rydym yn ymrwymo i reolaeth ac arweinyddiaeth graff.
Gweld yr holl swyddi gwag presennol >
Cofrestru i gael ein hysbysiadau am swyddi >
Pam gweithio i ni?
Mae gyrfaoedd gyda Thai Wales & West yn hynod o werth chweil. Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl bob dydd.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, gofynnir i’n staff roi adborth bob blwyddyn, ac mae eu hadborth nhw wedi arwain at achrediad Cwmnïau Gorau sy’n cadarnhau ein bod yn gwmni 3 Seren ac yn perthyn i’r Grŵp o gwmnïau Dosbarth Byd i weithio iddynt yn 2022. Ni hefyd oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i sicrhau Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl am y ffordd ragorol yr ydym yn gweithredu ac yn gofalu am ein staff, ac rydym yn falch iawn o fod wedi dal ein gafael ar y safon hon.
Swyddi Gwag Presennol
Property & Estate Management Officer / Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystad
Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi
Cyflog gwych
Rydym yn cynnig cyflog cystadleuol ac yn cynnal adolygiad blynyddol.
Gwyliau blynyddol
25 diwrnod o wyliau y flwyddyn a’r gwyliau banc statudol dynodedig a diwrnod ychwanegol gan y cwmni dros y Nadolig.
Prynu a gwerthu gwyliau blynyddol
Y dewis i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
Hyfforddiant a datblygu
Gan gynnwys rhaglen ymsefydlu wedi’i phersonoli, rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth sydd wedi ennill gwobrau a chyrsiau Cymraeg a ariannir 100%.
Lles cyflogeion
Gan gynnwys ein cynllun ariannol Simplyhealth er mwyn helpu i ofalu am faich ariannol rhai o’ch triniaethau gofal iechyd arferol.
Trefniadau gweithio hyblyg
Trefniadau gweithio hyblyg er mwyn eich helpu i berfformio ar eich gorau yn y gwaith a rheoli rhannau eraill o’ch bywyd mewn ffordd effeithiol.
Datblygu ein Gweithlu ein Hunain
Gwybodaeth am ein menter ddiweddaraf sy’n ceisio rhoi hwb i yrfaoedd pobl trwy roi help llaw iddynt ar yr ysgol yrfaoedd. Datblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Gyrfaoedd Cambria
A ydych chi’n drydanwr neu’n beiriannydd nwy cymwys neu a oes gennych chi brofiad ym maes cynnal a chadw eiddo? Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, sy’n helpu i gynnal a chadw ein cartrefi, yn recriwtio nawr.