Talu fy rhent
Talu eich rhent ac unrhyw daliadau ddylai fod eich prif flaenoriaeth. Os na fyddwch yn talu, byddwch mewn perygl o golli eich cartref. Rydym yn cynnig ystod eang o wahanol ddewisiadau talu er mwyn gwneud hyn mor hawdd ag y bo modd i chi, gan gynnwys talu ar-lein, dros y ffôn a gwneud trefniant Debyd Uniongyrchol.
Os bydd angen i chi drafod eich taliadau rhent gyda rhywun neu os byddwch yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent, cysylltwch â’ch Swyddog Tai.
Talu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol
Talu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd symlaf o dalu eich rhent. Mae’n hawdd trefnu hyn ac mae modd cymryd taliadau bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis fel yr ydych yn dymuno.
Mae taliadau Debyd Uniongyrchol yn gyfleus ac maent yn cynnig mwy o reolaeth i chi dros eich arian.
Mae ein cynllun taliadau Debyd Uniongyrchol yn cynnig gwarant talu. Os gwneir unrhyw newidiadau i swm eich Debyd Uniongyrchol, byddwn yn rhoi gwybod i chi o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
Cysylltwch â’ch Swyddog Tai os hoffech wneud trefniant Debyd Uniongyrchol.
Cwestiynau Cyffredin
Nid oes gennyf gyfrif banc, a fydd modd i mi wneud trefniant debyd uniongyrchol o hyd?
Taliadau Debyd Uniongyrchol – penwythnosau a gwyliau banc
Gan ein bod yn cyflwyno’r ffeil dalu ymlaen llaw, efallai y bydd yn ymddangos fel trafodiad yn yr arfaeth, fodd bynnag, gan effeithio ar eich arian clir dros ŵyl y banc.
Nid oes digon o arian yn fy nghyfrif banc i dalu’r Debyd Uniongyrchol. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni allu trafod talu eich rhent gyda chi. Os byddwn yn cael gwybod mewn da bryd, tri diwrnod gwaith fel arfer, efallai y byddwn yn gallu atal y taliad Debyd Uniongyrchol, gan atal sefyllfa lle y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau banc. Anfonwch e-bost at: Direct.Debits@wwha.co.uk
Talu dros y ffôn – 0800 052 2526
Gallwch dalu dros y ffôn gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd trwy ein ffonio ar 0800 052 2526. Ni allwn gymryd taliadau dros gerdyn oni bai bod deiliad y cerdyn yn bresennol.
Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Creu cynllun talu
Siaradwch â’ch Swyddog Tai am y cam o greu cynllun talu. Byddant yn gweithio gyda chi i ddeall eich derbyniadau a’ch gwariant, gan baratoi cynllun talu sy’n addas i chi: bydd hyn yn cynnig tawelwch meddwl i chi y byddwch yn cadw eich cartref.
Cysylltu â’m Swyddog Tai >
Eich cynorthwyo chi
Mae ein Tîm Tai yma i’ch cynorthwyo i gynnal eich meddiannaeth a byw yn eich cartref Tai Wales & West am ba mor hir ag y byddwch yn dymuno. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich rhent a’ch biliau ac os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â’ch Swyddog Tai.
Yn ogystal, mae ein timau ar gael i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych chi am eich rhent neu’ch cartref. Eich Swyddog Tai yw’r pwynt cyswllt gorau neu gallwch ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Gallwn roi copïau o’ch datganiadau rhent i chi unrhyw bryd hefyd.