Os oes gennych chi fesurydd rhagdalu, gwnewch yn siŵr bod y mesurydd yn cynnwys credyd yn y lle cyntaf. Bydd rhai mesuryddion yn dangos DYLED mewn llythrennau bach iawn. Os oes credyd yn y mesurydd, bydd yn dangos CR – creditor.
Os na fydd unrhyw beth yn ymddangos ar y mesurydd, holwch eich cymdogion a oes ganddyn nhw bŵer oherwydd gallai fod problem ar y grid, a bydd angen i chi gysylltu â’ch Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (er enghraifft SP Energy Networks neu Western Power ac ati) i gael gwybod am unrhyw doriadau i’r cyflenwad yn eich ardal.
Os nad oes unrhyw doriadau i’r cyflenwad yn eich ardal, ac mae’r mesurydd yn wag o hyd, cysylltwch â’ch darparwr ynni.
Mae gan rai eiddo, fel blociau o fflatiau neu gynlluniau ymddeol, ynysyddion allanol, y gallwch eu gweld yn y blwch mesurydd neu ystafell y mesurydd. Gwnewch yn siŵr bod y switsh ymlaen. Os bydd hwn wedi cael ei ddiffodd, ni fydd eich eiddo yn cael pŵer.
Os oes trydan gan bawb arall yn yr ardal, bydd angen i chi archwilio y bwrdd ffiwsiau yn eich cartref. Lleolir hwn ger y drws ffrynt neu mewn cwpwrdd dan y grisiau fel arfer. Ar ôl i chi ddod o hyd iddo, dilynwch y camau hyn:
- Yn gyntaf, gwneud yn siŵr bod pob switsh i fyny. Os yw’ch trip-switsh (sef y switsh mwy o faint sy’n nodi RCD – residual current device) yn wynebu i lawr, rhowch yr holl switshys eraill ar y bwrdd i lawr.
- Gwthiwch y trip-switsh (RCD) i lawr yn llwyr, yna yn ôl i’r safle i fyny.
- Ar ôl i chi wneud hyn, gwthiwch yr holl switshys eraill yn ôl i’r safle ymlaen fesul un, a’r gobaith yw y bydd eich pŵer yn dod yn ôl.
- Os bydd y trip-switsh yn parhau i droi i ffwrdd neu “dripio”, gallai fod yn rhywbeth syml. Tegellau, tostwyr a pheiriannau golchi dillad diffygiol yw’r troseddwyr mwyaf. Ceisiwch gofio yr hyn yr oeddech yn ei wneud pan gollwyd y trydan. A oeddech chi’n paratoi paned o de neu ddarn o dost? Neu a oeddech chi newydd droi eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant sychu dillad ymlaen? Os felly, tynnwch blwg y ddyfais hon allan o’r wal a rhowch y trip-switsh yn ôl ymlaen. Os bydd yn tripio o hyd, ceisiwch dynnu plygiau dyfeisiau eraill yn y gylched allan o’r wal ac ailosod y trip-switsh.
Os na fydd hyn yn gweithio o hyd, ffoniwch 0800 052 2526 neu ewch ati i lenwi’r ffurflen