Adrodd am waith trwsio
Mae sicrhau bod eich cartref yn cael gofal da yn flaenoriaeth allweddol i ni, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Fel y landlord, ni sy’n gyfrifol am gyflawni rhai tasgau trwsio, ac rydych chi’n gyfrifol am rai ohonynt.
Adrodd am waith trwsio ar-lein >
0800 052 2526
Adrodd am waith trwsio dros y ffôn
Os ydych chi’n ffonio 0800 052 2526 i adrodd am waith trwsio. Mae ein llinell ffôn er mwyn adrodd am waith trwsio ar agor o 8:00am i 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rhoddir sylw i’r holl waith trwsio nad yw’n waith trwsio brys yn ystod yr oriau hyn.
Gwasanaeth gwresogi y tu allan i oriau
Dim ond argyfyngau y bydd ein timau yn eu mynychu (fel arfer mewn argyfwng, bydd perygl i ddiogelwch neu berygl yr achosir difrod helaeth i’r eiddo)
Gwasanaeth y tu allan i oriau >
Canllawiau atgyweirio
Mae nifer o faterion cyffredin sy’n gallu codi yn eich cartref ac y maent yn hawdd eu trwsio. Chwiliwch am eich mater yn ein canllawiau cymorth isod i weld a ydych chi’n gallu trwsio’r mater eich hun neu a fydd angen i chi gysylltu â ni.
Nwy a Gwres
Dŵr a Phlymio
- Mae pibell wedi byrstio
- Mae dŵr wedi achosi llifogydd
- Achos difrifol o ddŵr yn gollwng neu ddifrod i danciau storio dŵr
- Mae pen fy nghawod yn gollwng?
- Mae fy sinc wedi blocio
- Mae fy nhap yn dripian/gollwng
- Mae seston y toiled yn rhedeg drwy’r amser
- Mae fy nhŷ bach wedi blocio
- Mae sedd y toiled wedi torri
- Carthion sy’n gorlifo
Mynediad i fy eiddo
Materion y tu mewn i fy nghartref
- A oes modd i chi ddod i osod fy mheiriant golchi dillad/llestri newydd?
- A oes modd i chi osod erial deledu newydd yn fy nghartref?
- Rydw i’n dymuno adrodd am llwydni yn fy nghartref
- Mae morgrug, gwlithod, pryfed lludw yn fy nghartref
- Gosodwyd lloriau newydd yn fy nghartref ac mae fy nrysau yn cydio nawr
- Nid yw fy mwlb golau yn gweithio
- Mae fy larwm mwg yn gwneud sŵn bîp
Materion y tu allan i fy nghartref
- Mae gwenyn neu wenyn meirch yn nythu yn fy ngardd
- Mae llygod mawr yn fy ngardd
- Mae’r ffens yn yr ardd wedi chwythu i lawr
- Mae angen trwsio fy sied
- Mae fy lein ddillad wedi torri ac mae angen un newydd arnaf?
- Mae angen torri’r porfa/clawdd yn fy ngardd
- Mae coeden beryglus neu sydd wedi tyfu’n wyllt ger fy nghartref?
Nwy a Gwres
Mynediad i fy eiddo
Dŵr a Phlymio
- Mae pibell wedi byrstio
- Mae dŵr wedi achosi llifogydd
- Achos difrifol o ddŵr yn gollwng neu ddifrod i danciau storio dŵr
- Mae pen fy nghawod yn gollwng?
- Mae fy sinc wedi blocio
- Mae fy nhap yn dripian/gollwng
- Mae seston y toiled yn rhedeg drwy’r amser
- Mae fy nhŷ bach wedi blocio
- Mae sedd y toiled wedi torri
- Carthion sy’n gorlifo
Materion y tu mewn i fy nghartref
- A oes modd i chi ddod i osod fy mheiriant golchi dillad/llestri newydd?
- A oes modd i chi osod erial deledu newydd yn fy nghartref?
- Rydw i’n dymuno adrodd am llwydni yn fy nghartref
- Mae morgrug, gwlithod, pryfed lludw yn fy nghartref
- Gosodwyd lloriau newydd yn fy nghartref ac mae fy nrysau yn cydio nawr
- Nid yw fy mwlb golau yn gweithio
- Mae fy larwm mwg yn gwneud sŵn bîp
Materion y tu allan i fy nghartref
- Mae gwenyn neu wenyn meirch yn nythu yn fy ngardd
- Mae llygod mawr yn fy ngardd
- Mae’r ffens yn yr ardd wedi chwythu i lawr
- Mae angen trwsio fy sied
- Mae fy lein ddillad wedi torri ac mae angen un newydd arnaf?
- Mae angen torri’r porfa/clawdd yn fy ngardd
- Mae coeden beryglus neu sydd wedi tyfu’n wyllt ger fy nghartref?
Os ydych chi’n credu bod Nwy yn gollwng gyda chi, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith
Os bydd eich Larwm CO yn canu, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999 ar unwaith
Cwestiynau cyffredin
Rydw i'n gwybod mai fi sy'n gyfrifol am y gwaith, ond beth os na fyddaf yn gallu ei wneud?
Os ydych yn agored i niwed, yn oedrannus neu’n anabl ac os na allwch wneud y gwaith trwsio hwn eich hun, a oes gennych chi berthynas, ffrind neu gymydog y gallent eich helpu? Fel hyn, efallai y bydd modd i chi drefnu bod eich problem yn cael ei datrys yn gyflymach. Os na, dylech lenwi’r ffurflen gwaith trwsio a byddwn yn gwneud apwyntiad pan fydd gennym slot ar gael.
Sut ydw i'n gallu adrodd am waith trwsio os ydw i'n Lesddeiliad?
Lesddeiliaid, darllenwch delerau eich prydles cyn rhoi gwybod am unrhyw atgyweiriad i’ch cartref.
A ydw i'n gallu adrodd am waith trwsio o hyd os bydd y difrod wedi cael ei achosi gennyf i neu ffrind/aelod o'r teulu?
Os yw’r gwaith trwsio y mae angen ei wneud wedi cael ei achosi gan rhywbeth yr ydych chi neu’ch teulu/ffrindiau wedi’i wneud, byddwch chi’n gyfrifol am drefnu a thalu am y gwaith trwsio hwn