Ffoniwch ni ar 0800 052 2526 ar unwaith.
A ydych chi’n gallu diffodd y cyflenwad dŵr i’r ardal sy’n cael ei heffeithio? Bydd gwneud hyn yn gyflym yn helpu i atal difrod pellach i’ch cartref ac i’ch eiddo ac i eiddo cyfagos. Os ydych chi’n byw mewn fflat, mae hyn yn hanfodol er mwyn atal difrod gan ddŵr i eiddo cyfagos.
Fel arfer, bydd stopfalf dan eich sinc neu mewn cwpwrdd dan y grisiau. Ar gyfer sinciau toiledau neu ystafelloedd ymolchi, ceir falf ynysu (sy’n edrych fel sgriw pen rhych) y gellir ei chau gan ddefnyddio sgriwdreifer.
Os yw’r dŵr yn gollwng ger unrhyw switshys neu socedi trydan, dylech ddiffodd y trydan wrth yr uned defnyddiwr.
Diffoddwch y system gwres canolog neu’r twymwr tanddwr.
Trowch bob tap ymlaen er mwyn draenio’r dŵr o’r system.
Os nad ydych chi’n gallu troi’r dŵr i ffwrdd, rhowch dywel neu gynhwysydd dan y man lle y mae’n gollwng er mwyn casglu’r dŵr.