Os yw’ch larwm carbon monocsid yn canu yn gyson ac nid oes unrhyw un sy’n bresennol yn teimlo’n sâl, dylech ddiffodd pob dyfais nwy a sicrhau bod pawb yn eich cartref yn gadael yr eiddo.
Ffoniwch y gwasanaethau brys ar gyfer nwy ar unwaith ar 0800 111 999.
Os bydd unrhyw un yn eich cartref wedi cael cyswllt â lefelau carbon monocsid isel, efallai y byddant yn cwyno am y canlynol:
- pennau tost
- dryswch
- teimlo’n ymosodol
- cyfog
- chwydu a/neu ddolur rhydd
Gallai symptomau ddifrifol gynnwys:
- y croen yn troi’n lliw llwyd-las
- anadlu’n gyflym a chael anhawster anadlu
- lefel ymateb ddiffygiol, gan arwain at ddiffyg ymateb
Os bydd gan unrhyw un yn eich cartref y symptomau hyn, dylech adael yr eiddo a cheisio cyngor meddygol ar unwaith.
Os yw eich larwm yn canu o bryd i’w gilydd, mae’n debygol bod angen gosod batri newydd ynddo. I wneud hyn, tynnwch orchudd y larwm i ffwrdd, gan osod batri newydd ynddo.