Yn gyntaf, ceisiwch gael gwared ar unrhyw wallt neu sebon neu fwyd a allai fod yn achosi’r rhwystr. Os na fydd hyn yn gweithio, ceisiwch ddefnyddio cynnyrch dadflocio sinc sy’n ewynnu, y gallwch ei brynu mewn nifer o archfarchnadoedd neu siopau DIY neu siopau nwyddau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y math sy’n ewynnu gan ei fod yn gorchuddio’r pibellau ac mae’n fwy effeithiol. Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus.
Sylwer na fydd cannydd yn clirio pibell wedi’i rhwystro. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylid defnyddio cannydd neu gynnyrch glanhau sinc sy’n ewynnu yn rheolaidd (tua unwaith y mis) er mwyn cadw eich pibellau yn lân ac yn rhydd rhag rhwystrau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod sinciau a phibellau yn lân ac yn glir.
Os bydd peiriannydd yn dod allan a phe byddech chi wedi gallu clirio’r rhwystr eich hun, mae’n debygol y codir tâl arnoch am y gwaith hwn.