Yn aml, cyfeirir at gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl fel ‘trosedd guddiedig’, ond nid yw’n digwydd mewn dinasoedd mawr neu ardaloedd diwydiannol yn unig. Gallai ddigwydd i ddynion, menywod a phlant ac fe allai ddigwydd ar unrhyw stryd.
Gall dioddefwyr gael eu gorfodi i weithio mewn amodau amhleserus, heb unrhyw dâl neu am dâl pitw, a byddant yn cael eu rheoli gan ‘gyflogwr’ sy’n defnyddio cam-drin neu fygythiadau o gam-drin, neu maent yn destun camfanteisio neu’n cael eu trin fel gwrthrych neu feddiant.
Efallai na fydd dioddefwyr yn sylweddoli eu bod yn destun camfanteisio neu efallai y byddant yn teimlo’n rhy ofnus i adrodd am yr hyn sy’n digwydd iddynt.
Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl neu os oes trosedd yn digwydd.
Ffoniwch 101 os byddwch yn amau bod hyn yn digwydd yn eich cymuned. Os byddai’n well gennych beidio rhoi eich enw, gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein
Asiantaethau eraill sy’n gallu helpu
Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 0800 012 1700 – mae hon yn gyfrinachol ac ar gael yn rhad ac am ddim
BAWSO (darparwr cymorth ar draws Cymru i bobl o gefndiroedd Duon a Lleiafrifoedd Ethnig) 0800 731 8147