Chair of the Board Alex Ashton smiling to camera

Alex Ashton

Cadeirydd y Bwrdd

Etholwyd Alex i’r Bwrdd yn 2016 a bu hefyd yn Aelod yn y gorffennol. Mae’n weinidog eglwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae ganddo gysylltiadau cryfion ar draws y gymuned ac ar draws llywodraeth leol, gan ei fod wedi treulio dros ddeng mlynedd yn gweithio mewn adran budd-daliadau awdurdod lleol. Mae Alex yn meddu ar radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes ac mae ganddo brofiad o wasanaethu ar fyrddau amrywiol, fel ymddiriedolwr elusen ac fel llywodraethwr ysgol.

Vice Chair of the Board John McPeake smiling to camera

John McPeake

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau

Cyfetholwyd John i’r Bwrdd yn 2014 a’i ethol yn 2015.   Mae’n cyflawni rolau ar fwrdd Canolfan Gydweithredol y DU dros Dystiolaeth Tai ac ar fwrdd Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Gorllewin. Cyn hynny roedd John yn Brif Weithredwr Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon, ac mae’n Athro Anrhydeddus Cynllunio ym Mhrifysgol Queens, Belfast. ⁠ 

Board member Ian Anderson smiling to camera

Ian Anderson

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Ian i’r bwrdd yn 2020. Mae ganddo radd BSc mewn Rheoli, Cyllid a Pholisi Tai. Mae wedi gweithio ym maes budd-dal tai, Cymdeithas Tai BAME ac ar lefel uwch ym maes rheoli tai ac anghenion arbennig. Mae Ian yn byw yng Nghastell-nedd, lle y mae’n weinidog. Mae’n gwneud gwaith gwirfoddol hefyd fel dirprwy gaplan arweiniol ar gyfer Heddlu De Cymru ac fel caplan ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg. Mae Ian yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Pensiynau.

Board member Jemma Bere smiling to camera

Jemma Bere

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Jemma i’r Bwrdd yn 2014 ac fe’i hetholwyd yn 2015. Mae’n Rheolwr Polisi ac Ymchwil ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus, ac yn arbenigo mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a newid ymddygiad.  Yn flaenorol, bu Jemma yn gweithio i CREW Adfywio Cymru a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd ac roedd yn ymddiriedolwr gyda’i Grŵp a’i Lloches Cymorth i Fenywod lleol. Mae Jemma yn un o breswylwyr y Gymdeithas yn Aberhonddu.

Board member Ruth Eley smiling to camera

Ruth Eley

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Ruth i’r Bwrdd yn 2015 ac fe’i hetholwyd yn 2016. Mae cefndir Ruth ym maes gofal cymdeithasol ac mae ganddi dros 40 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, GIG a’r Adran Iechyd. Mae’n Ymddiriedolwr Gyda’n Gilydd mewn Dementia Bob Dydd (TIDE) ac yn Gyfarwyddwr Rhwydwaith Straeon Bywyd a’i chwmni ymgynghori ei hun, ac roedd y gwaith a wnaeth yn ddiweddar yn canolbwyntio ar bobl sydd â dementia a gofalwyr teuluol.

Mae Ruth yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Pensiynau.

 

Board member Kevin Taylor smiling to camera

Kevin Taylor

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Kevin i’r Bwrdd yn 2016 ac fe’i etholwyd yn 2017. Mae Kevin yn gyfrifydd cymwys ac mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad helaeth. Ers iddo ymddeol yn 2014, mae wedi bod yn weithgar ym maes tai, gan wirfoddoli gydag elusen a menter gymdeithasol yn Aberteifi. Mae’n byw yn Sir Benfro.

Mae Kevin yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Pensiynau.

 

Board member Joy William smiling to camera

Joy Williams

Aelod Bwrdd

I ddechrau, llenwodd Joy swydd a ddigwyddodd ddod yn wag ar y Bwrdd yn 2018 ac fe’i penodwyd i’r Bwrdd yn 2020. Arferai fod yn athrawes gynradd cyn iddi weithio ar brosiect cyflogadwyedd gwasanaethau cymdeithasol. Mae hi wedi rhedeg ei busnes ei hun hefyd.  Mae hi wedi gweithio yn y sector digartrefedd ar draws Cymru er 2012, ac yn gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd. Mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys polisi a deddfwriaeth digartrefedd, a chomisiynu gan y sector cyhoeddus. 

Board member Peter Harding smiling to camera

Peter Harding

Aelod Bwrdd

Llenwodd Peter swydd a ddigwyddodd ddod yn wag ar y Bwrdd yn 2019 ac fe’i etholwyd i’r Bwrdd yn 2020. Bu’n rheolwr ym maes tai, gan arbenigo mewn llety â chymorth, rheolaeth ranbarthol a datblygu polisi, yna bu’n was sifil i Lywodraeth Cymru. Mae wedi rhedeg ei fusnes ei hun ac ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr Partneriaeth Cadenza. Mae ganddo brofiad helaeth yn y trydydd sector, mae’n Gadeirydd Cardiff Pedal Power ac yn Drysorydd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange. Mae ganddo radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Mae Peter yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Pensiynau.

Board member Kathy Smart smiling to camera

Kathy Smart

Aelod Bwrdd

Etholwyd Kathy i’r Bwrdd ym mis Mehefin 2017. Mae’n ymwneud yn fawr â gwaith elusennol ac mae ganddi radd MSc mewn Entrepreneuriaeth a Busnes. Mae hi’n byw ym Mro Morgannwg.

Board member Ivor Gittens smiling to camera

Ivor Gittens

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Ivor i’r Bwrdd yn 2019. Ar ôl dilyn gyrfa lawn yn yr Awyrlu Brenhinol, bu’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fel Swyddog Hyfforddiadol. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes gwirfoddoli, bu’n aelod o Bwyllgor Prawf De Morgannwg a bu’n aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru hefyd. Yn ogystal, treuliodd Ivor gyfnod fel aelod o Fwrdd Monitro Annibynnol Carchar Y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n aelod o gorff llywodraethu dwy ysgol yng Nghaerdydd.

Board member Christine Salter smiling to camera

Christine Salter

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Christine i’r Bwrdd yn 2019 ac fe’i hetholwyd yn 2020. Mae Christine wedi bod yn gyfrifydd cymwys ers 40 mlynedd a threuliodd ei gyrfa mewn llywodraeth leol, lle’r oedd yn gyfrifol am ystod gyfan y gwasanaethau cymorth ar gyfer y cyngor mwyaf yng Nghymru. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes cyllid corfforaethol, rheolaeth strategol, datblygu polisi a chynllunio ariannol. Ers iddi ymddeol yn 2019, mae Christine wedi bod yn gwirfoddoli gyda phlant ac oedolion agored i niwed ac mae’n gyfaill dementia.

Mae Christine yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Pwyllgor Pensiynau.

Board member Kathy Smart smiling to camera

Aideen Hayden

Aelod Bwrdd

Cyfetholwyd Aideen i’r Bwrdd ym mis Tachwedd 2023. Bu Aideen yn Gadeirydd Bwrdd Threshold (2001-21) a hi oedd llais y sefydliad wrth ymgyrchu dros a sicrhau newidiadau deddfwriaethol mawr ynghylch rheoleiddio’r sector rhent yn Iwerddon. Penodwyd Aideen i Senedd Iwerddon (2011-16) a bu’n Is-Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Seneddol Senedd Iwerddon. Ar hyn o bryd, mae’n cyflawni rolau ar fwrdd yr Asiantaeth Cyllid Tai ac ar fwrdd yr Awdurdod Rheoliadol Gwasanaethau Eiddo.   Mae Aideen hefyd yn gyfreithwraig gymwys a bu’n gweithio ym maes cyfraith gorfforaethol am nifer o flynyddoedd.

Board member Ivor Gittens smiling to camera

Roger Lee

Aelod cyfetholedig

Mae gan Roger brofiad sylweddol yn y sector Bancio Masnachol a Chorfforaethol, ar ôl ymuno â NatWest ym 1990 yn y lle cyntaf, ac yna ymuno â Santander yn 2001, cyn ymddeol yn 2021.  Roedd ei waith yn canolbwyntio ar ddarparu cyllid ar gyfer cymdeithasau tai ar draws y DU, a threuliodd 10 mlynedd olaf ei yrfa fel pennaeth tîm tai cymdeithasol Santander, gyda chyfrifoldeb dros reoli tua 150 o brif berthnasoedd gyda chymdeithasau tai ac un o’r portffolios benthyca corfforaethol mwyaf yn y sector.  Roedd hefyd wedi ysgogi a meithrin perthnasoedd gydag ystod amrywiol o arbenigwyr yn y sector, gan gynnwys cyfreithwyr, priswyr, cynghorwyr, rheoleiddwyr a chyrff masnachol.  Mae Roger hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Grŵp Flagship yn Norwich.

Board member Christine Salter smiling to camera

Jessie Broadway

Aelod cyfetholedig

Cyfetholwyd Jessie ar y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2024. Mae Jessie yn teimlo’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Ar hyn o bryd, mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Housing Festival, sefydliad trafod a gweithredu sy’n gweithio i ganfod datrysiadau arloesol ac y gellir eu tyfu i’r argyfwng tai, ac sy’n cael eu gweithredu a’u mireinio yn y byd go iawn. Fel cyd sylfaenydd mae hi’n gyfrifol ar y cud am ddatblygu a darparu Housing Festival. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys gweithio i sefydliad blaenllaw ym maes atal caethwasiaeth ac mae ganddi MSt mewn Arloesi Cymdeithasol o Ysgol Fusnes Cambridge Judge. Caiff ei gwaith ei gymell gan ei chred yng ngwerth ac urddas pob unigolyn.

Board member Christine Salter smiling to camera

Craig Hopkins

Aelod cyfetholedig

Cyfetholwyd Craig ar y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2024. Ar ôl graddio, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol am ddegawd, mewn adrannau Budd-daliadau ac Archwilio. Ar hyn o bryd, mae Craig yn arwain rhwydwaith o eglwysi yn Ne Cymru ac mae’n weinidog arweiniol eglwys yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gwasanaethu fel ymddiriedolwr cenedlaethol yr eglwys/elusen y mae’n weinidog iddi, gyda changhennau ar draws y DU ac Iwerddon, ac mae ganddo gyfrifoldebau penodol dros ddiogelu.

Cyfarfodydd y Bwrdd

Cyfarfodydd y Bwrdd

2025

Dydd Iau 20 Chwefror 2025
12.30pm
Gorllewin Cymru (tbc)

Dydd Iau 10 Ebrill
12.30pm
Tŷ’r Bwa

Dydd Iau 22 Mai 2025
12.30pm
Gogledd Cymru (tbc)

Dydd Iau 21 Awst 2025
12.30pm
Rhith

Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
12.30pm
Tŷ’r Bwa

Dydd Iau 18 Rhagfyr 2025
12.30pm
TBC

WWH logo on a wall

Sut allaf fod yn Aelod o’r Bwrdd?

 

Etholir aelodau’r Bwrdd o blith y cyfranddalwyr, felly rhaid bod unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i fod yn gyfranddaliwr feddu ar y sgiliau, y profiad ac mae gofyn iddynt fod yn fodlon sefyll fel Aelod Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn cymeradwyo ceisiadau darpar gyfranddalwyr, ac mae’n ceisio denu pobl sy’n cynrychioli’r cymunedau y mae’r Gymdeithas yn eu gwasanaethu.

I lenwi Ffurflen Gais Gyfranddaliwr, cysylltwch â contactus@wwha.co.uk.

i

Darllenwch ein Polisi Cyfranddalwyr >