
Anne Hinchey
Prif Weithredwr y Grŵp
Ymunodd Anne â’r Grŵp ym 1999 ac fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr y Grŵp yn 2006. Mae ganddi brofiad helaeth yn y sector cymdeithasau tai, y sector gwirfoddol a’r sector awdurdodau lleol yng Nghymru, ar ôl cychwyn ar ei gyrfa fel swyddog casglu rhent ym 1985 yng Nghaerdydd. Mae gan Anne radd BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, gradd MA mewn Addysg, ac mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.
Diddordebau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments a Enfys Homes.

Joanna Davoile
Cyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau)
Mae Jo wedi bod yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr ers dros 20 mlynedd, ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw yn gweithio ym maes datblygu tai cymdeithasol newydd. Mae gan Jo ddiploma ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth, gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes ac mae wedi sicrhau achrediad fel Hyfforddwr Proffesiynol. Ymunodd Jo â’r Grŵp fel Cyfarwyddwr Datblygu yn 2019 cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau) yn 2022.
Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments ac Enfys Homes.
Cyfrifoldebau: Tai, Eiddo ac Ystadau, Cynnal a Chadw Eiddo a Gwasanaethu, a Cambria.

Stuart Epps
Cyfarwyddwr Gweithredol (Cyllid a Datblygu)
Ymunodd Stuart â’r Grŵp yn 2011 a daeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Cyllid a Datblygu) ar ddechrau 2016. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol uwch ym maes datblygu eiddo, ymgynghori yn yr amgylchedd adeiledig ac adeiladu yng Nghymru. Mae Stuart yn Gyfrifydd Siartredig cymwysedig.
Cyfrifoldebau: Cyllid, Rheoli Trysorlys a Datblygu, Buddsoddi Asedau a Chaffael.
Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments ac Enfys Homes.

Alex Stephenson
Cyfarwyddwr Gweithredol (Strategaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau)
Mae gan Alex bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes tai. Ar ôl ymuno â’r Grŵp yn yr adran gyllid yn 2004 fel cyfrifydd cymwys, aeth ymlaen i gael ei benodi yn Bennaeth Gwasanaethau Eiddo ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Strategaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau) ar ddechrau 2020.
Cyfrifoldebau: TGCh, Tîm Gwasanaethau Corfforaethol, Pobl a Diwylliant, a Iechyd a Diogelwch
Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments ac Enfys Homes.