Chwilio am gartref

Yn Nhai Wales & West, mae gennym dros 12,500 eiddo mewn 13 o ardaloedd awdurdodau lleol ar draws Gogledd, De a Gorllewin Cymru.

Cartrefi rhent yw’r rhan fwyaf ohonynt, sy’n cael eu neilltuo gan restrau aros awdurdodau lleol am dai cymdeithasol.  Mae’r rhain yn amrywio o fflatiau un ystafell wely a chartrefi teuluol mwy o faint, i fflatiau ymddeol a gofal ychwanegol.

Rydym yn ddatblygwr mawr ac yn adeiladu cannoedd o gartrefi newydd fforddiadwy ac o ansawdd uchel bob blwyddyn, i’w rhentu mewn ardaloedd y mae pobl yn dymuno byw ynddynt.  Rydym hefyd yn gwerthu ein cartrefi trwy gynlluniau Perchentyaeth Cost Isel hefyd.

Smiling WWH resident outside her home

Rhent >

Happy WWH Resident holding keys outside new home

Prynu >

WWH staff member wearing PPE on construction site smiling holding architectural plans

Datblygiadau yn y Dyfodol >

Elderly WWH resident smiling sat in dining room at extra care scheme

Gofal ychwanegol >

Smiling WWH resident outside her home

Rhent

Mae mwyafrif ein cartrefi ar draws Cymru ar gael fel cartrefi rhent cymdeithasol. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyfateb y bobl gywir gyda’u cartref perffaith.

Darganfod mwy >

WWH resident holds new house keys standing outside new home smiling to camera

Prynu

Gyda nifer o ddewisiadau Perchentyaeth Cost Isel ar gael, rydym yn helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol eiddo.

Darganfod mwy >

Elderly WWH resident smiling sat in dining room at extra care scheme

Gofal ychwanegol

Gall preswylwyr yn ein cynlluniau Gofal Ychwanegol fyw bywyd annibynnol, gan wybod bod cymorth ar gael yn ôl y gofyn gan dimau gofal 24/7.

Darganfod mwy >

WWH staff member wearing PPE on construction site smiling holding architectural plans

Datblygiadau yn y Dyfodol

Bydd ein rhaglen adeiladu uchelgeisiol yn golygu y byddwn yn darparu dros 500 o gartrefi newydd y flwyddyn. Darllenwch am ein datblygiadau diweddaraf.

Darganfod mwy >

A ydych chi’n caniatáu anifeiliaid anwes?

Ydym mewn bron pob achos – rydym yn ymwybodol o’r hapusrwydd a’r cwmni y gall anifeiliaid anwes ei gynnig, a’r unig beth y byddwn yn ei ofyn yw eich bod yn dilyn ychydig reolau syml.

A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os ydych chi’n bwriadu cael anifail anwes trwy lenwi’r ffurflen hon. Ar ôl i chi ddod yn berchennog anifail anwes, dylech ofalu amdanynt mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau na fyddant yn peri niwsans i gymdogion. Ni chewch gadw unrhyw anifail sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, a dim ond os oes gennych chi dystysgrif eithriad gan lys y gallwch gadw ci sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.

Cysylltwch â’ch swyddog tai os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd gofyn i chi gael cyngor.

Dywedwch wrthym os ydych chi’n bwriadu cael anifail anwes >

WWH resident smiling holding pet dog

Cyfnewid eich cartref

Os ydych chi’n byw yn un o gartrefi Tai Wales & West yn barod ond nid yw’n addas i chi mwyach, gallwch ofyn am gyfnewid cartref.  Trafodwch yr holl ddewisiadau sydd ar gael i chi gyda’ch Swyddog Tai.

Chwilio am fy Swyddog Tai >

WWH resident smiling holding pet dog

A ydych chi’n caniatáu anifeiliaid anwes?

Ydym mewn bron pob achos – rydym yn ymwybodol o’r hapusrwydd a’r cwmni y gall anifeiliaid anwes ei gynnig, a’r unig beth y byddwn yn ei ofyn yw eich bod yn dilyn ychydig reolau syml. A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os ydych chi’n bwriadu cael anifail anwes trwy lenwi’r ffurflen hon. Ar ôl i chi ddod yn berchennog anifail anwes, dylech ofalu amdanynt mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau na fyddant yn peri niwsans i gymdogion. Ni chewch gadw unrhyw anifail sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, a dim ond os oes gennych chi dystysgrif eithriad gan lys y gallwch gadw ci sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991. Cysylltwch â’ch swyddog tai os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd gofyn i chi gael cyngor.

Dywedwch wrthym os ydych chi’n bwriadu cael anifail anwes >

Cyfnewid eich cartref

Os ydych chi’n byw yn un o gartrefi Tai Wales & West yn barod ond nid yw’n addas i chi mwyach, gallwch ofyn am gyfnewid cartref.  Trafodwch yr holl ddewisiadau sydd ar gael i chi gyda’ch Swyddog Tai.

Chwilio am fy Swyddog Tai >