Datblygiadau yn y dyfodol

Ein huchelgais yw adeiladu mwy o gartrefi er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru.

Rydym yn adeiladu mwy o gartrefi nag erioed o’r blaen – y mathau o gartrefi y mae pobl yn dymuno byw ynddynt, yn yr ardaloedd lle y maent yn dymuno byw. Mewn nifer o ardaloedd, rydym yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral o ran deunyddiau ac adeiladwaith, gan arwain at feddiannaeth sy’n defnyddio bron i ddim ynni o gwbl.

Pen Y Banc

Penrhyncoch, Ceredigion

Rydym yn gweithio Castlemead Developments, i ddatblygu 19 o gartrefi newydd yn y pentref Penrhyncoch ar bwys Aberystwyth.

CGI of WWH multi-purpose building at the site of the Former Cardigan Hospital

Hen Safle Ysbyty 

Aberteifi, Ceredigion

Rydym yn gweithio i ailddatblygu hen safle Ysbyty Aberteifi fel y porth i’r dref, gan ddwyn 20 o gartrefi ecogyfeillgar rhent fforddiadwy ar gyfer pobl leol a swyddfeydd newydd i’r ardal.

CGI image of WWH's Colchester Avenue multi storey apartment building

Parc Y Chwarel

Abergwaun

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd, i ddatblygu 50 o gartrefi newydd am rhent fforddiadwy yn Abergwaun.

CGI of two semi detached houses at Heol Berwyn

Angorfa

Abergwaun

Mae ein partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd, yn adeiladu 12 fflat un ystafell wely gyda gardd gymunol ar safle hen dafarn y Ship and Anchor.