Gofal ychwanegol
Mwy na chartref yn unig, mae gofal ychwanegol yn cynnig y rhyddid i chi fyw bywyd annibynnol gyda’r tawelwch meddwl y gallwch fanteisio ar ofal a chymorth ar y safle.
Mae pob cynllun gofal ychwanegol yn cynnig y cyfle i fyw yn eich cartref eich hun, gyda’ch drws ffrynt eich hun, a’r rhyddid i wneud eich dewisiadau eich hun – gyda chymorth ychwanegol y bydd modd ei deilwra i fodloni eich anghenion unigol.
Lleolir ein cynlluniau gofal ychwanegol mewn mannau cyfleus ac maent yn darparu eich fflat un neu ddwy ystafell wely eich hun i chi, bwyty ar y safle a chyfleusterau cymunol a rennir megis gerddi, lolfeydd a golchdy.
Am y ddarpariaeth gofal ychwanegol
Mae tai gofal ychwanegol yn cynnig eich cartref eich hun i chi mewn cymuned ofalgar a chefnogol – bydd gennych eich drws ffrynt eich hun a’r rhyddid i wneud eich dewisiadau eich hun, ond gyda’r tawelwch meddwl o wybod eich bod yn byw mewn amgylchedd diogel.
Darparir gofal a chymorth a thai ar y safle gan dîm sy’n gweithio ar y safle, ynghyd â’r sicrwydd bod gwasanaeth ymateb brys 24-awr ar gael. Gellir darparu cymorth mewn ffordd hyblyg er mwyn sicrhau y gallwch gael eich cynorthwyo mewn ffordd sy’n bodloni eich anghenion unigol chi.
Mae ein holl gynlluniau gofal ychwanegol yn darparu:
- Eich fflat 1 neu 2 ystafell wely eich hun
- Cyfleusterau cymunol a rennir
- Darpariaeth gwasanaeth rheoli adeilad a thai
- Pryd 3 chwrs dyddiol a ddarparir gan y bwyty ar y safle, sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’ch tenantiaeth
- Gofal a chymorth 24/7 ar y safle a gwasanaeth ymateb brys
- Cymuned gefnogol sy’n cynnig rhyngweithio cymdeithasol, diddordebau a rennir a chysylltiadau â’r gymuned ehangach
Mae ein cynlluniau gofal ychwanegol yn cynnwys nodweddion unigryw hefyd. Gallwch gael gwybod mwy am y rhain trwy droi at dudalen pob cynllun ar y we.
Cost byw mewn cynllun gofal ychwanegol
Ceir gwahanol daliadau sy’n rhan o’r gost o fyw mewn cynllun gofal ychwanegol.
Rhent
Y swm a godir am rentu eich cartref, sy’n cynnwys cynnal a chadw a thrwsio’r adeilad.
Taliadau Gwasanaeth
Ceir dau fath o daliad gwasanaeth.
1. Taliadau gwasanaeth cymwys
Os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol, telir rhai o’r taliadau hyn neu’r holl daliadau hyn.
• Rheolwr Gofal Ychwanegol/Rheoli adeilad
• Garddio
• Glanhau’r ardaloedd cymunol
•Gwres, golau a chyflenwadau dŵr i’r ardaloedd cymunol
• Adnewyddu offer
• Contractau cynnal a chadw
• Amrywiol ee. darparu’r offer golchi dillad ac yswiriant y lifft
• Tâl Rheoli – cost y staffio a’r gorbenion er mwyn darparu gwasanaethau eich cynllun
2. Taliadau gwasanaeth nad ydynt yn gymwys
Hyd yn oed os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol, ni chaiff unrhyw rai o’r taliadau hyn eu cynnwys:
• Tâl fflat unigol – y tâl am y cyflenwad dŵr a gwres i bob fflat
• Y gwasanaeth arlwyo – y tâl am bryd 3 chwrs bob dydd
Pennir a thelir y rhent a’r taliadau gwasanaeth i Dai Wales & West ac nid ydynt yn cynnwys y costau canlynol:
• Cyflenwad trydan eich fflat
• Taliadau ffôn
• Pecynnau teledu fel Sky
• Treth Gyngor
• Glanhau eich fflat
• Unrhyw ofal a chymorth rheolaidd yr ydych yn ei gael
Taliadau Gofal a Chymorth
Hwn yw’r tâl am ofal a chymorth a ddarparir yn y cynllun gofal ychwanegol yn unol â chynlluniau darparu gwasanaeth a gofal. Mae’r tâl hwn ar wahân i’r rhent a’r taliadau gwasanaeth a amlinellwyd gan Dai Wales & West er mwyn byw yn y cynllun gofal ychwanegol.
Sut allaf wneud cais?
Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru eich manylion gyda ni. Gallwch wneud hyn trwy anfon e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffonio 0800 052 2526.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael gwahoddiad i ymweld â’r cynllun a chael gwybod mwy am fyw mewn llety gofal ychwanegol.
Yna, byddwn yn trefnu ymweld â chi yn eich cartref i asesu eich anghenion tai, gofal a chymorth.
Os derbynnir eich cais, byddwch yn cael eich cynnwys mewn rhestr aros. Caiff eiddo sydd ar gael eu neilltuo i bobl ar y rhestr aros.
Cwestiynau cyffredin
Mae fy mam yn dangos arwyddion cynnar clefyd Alzheimer – a fydd hi’n gallu symud i mewn i dŷ gofal ychwanegol?
Gall pobl sydd â chlefyd Alzheimer fyw mewn tai gofal ychwanegol. Fel rhan o’r asesiad a gynhelir o bob unigolyn, ystyrir pob cyflwr iechyd er mwyn sicrhau y gellir bodloni eu hanghenion gofal a chymorth cyn iddynt gael eu derbyn ar y rhestr aros am lety.
Mae fy ngŵr yn anhwylus – a ydych chi’n ystyried ceisiadau gan gyplau sy’n dymuno symud i dai gofal ychwanegol gyda’i gilydd?
Ydym. Ceir fflatiau sy’n cynnwys 2 ystafell wely, sy’n eang ac yn ddelfrydol i gyplau. Wrth asesu addasrwydd cyplau sy’n dymuno cael eu hystyried am dai gofal ychwanegol, byddem yn ystyried anghenion y ddau unigolyn a’r ddau ohonynt fel pâr.
Rydw i’n byw mewn llety gwarchod yn barod – sut fyddai llety gofal ychwanegol yn wahanol?
Y prif wahaniaeth yw bod tîm gofal a chymorth ar y safle yn ein cynlluniau gofal ychwanegol. Mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaethau i bobl yn unol â’r hyn a gytunwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.
Sut fyddwch yn blaenoriaethu’r bobl ar y rhestr aros?
Pan fydd lle gwag yn codi, ystyrir pawb sydd ar y rhestr aros. Cynigir yr eiddo i’r sawl y bernir eu bod yn yr angen mwyaf ar yr adeg honno.
Ystyrir unrhyw bosibilrwydd y bydd y risg i’r unigolyn yn colli eu hannibyniaeth yn cynyddu a/neu y bydd lefel y cymorth mae ei angen arnynt yn cynyddu os byddant yn aros yn eu llety presennol.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy iechyd yn gwaethygu pan fyddaf yn byw mewn llety gofal ychwanegol?
Disgwylir y gallai’ch anghenion newid gydag amser ac y gallai lefel y gofal a’r cymorth y bydd ei angen arnoch amrywio. Bydd y timau yn eich cynorthwyo i barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod mor hir ag y bo modd ac am ba mor hir y bydd hyn yn bodloni eich anghenion.
A ydw i’n gallu prynu fflat?
Fflatiau i’w rhentu yn unig yw’r rhain.
A fydd yn rhaid i mi dalu am bryd o fwyd os na fyddaf yn ei ddymuno?
Bydd – mae’r gwasanaeth prydau bwyd yn un o amodau’r denantiaeth. Mae hyn oherwydd y bydd gorbenion yn codi hyd yn oed os bydd unigolyn yn dewis peidio cael pryd.
A chaiff nwyddau gwynion eu cynnwys?
Ni chaiff nwyddau gwynion eu cynnwys.
A chaiff y deunydd llawr ei gynnwys?
Ceir deunydd llawr gwrthlithro yn y gegin ac yn yr ystafell gawod cerdded i mewn iddi, gan adael i chi ddewis a darparu eich deunydd llawr eich hun yn yr ystafelloedd eraill.
Gofynnwn i chi geisio cyngor staff y cyfleuster cyn dewis y deunydd llawr er mwyn sicrhau bod modd ystyried y ffordd y mae’r drysau yn agor a chau yn eich fflat.
A oes nwy ar gael ar gyfer cwcer?
Ni fydd nwy ar gael i’r fflatiau. Ceir darpariaeth yn y gegin i chi osod cwcer trydan.
A fyddaf yn gallu addurno fy fflat?
Byddwch yn gallu addurno eich fflat. Pan fydd yr eiddo yn newydd, gofynnwn i chi adael 12 mis cyn gwneud unrhyw waith addurno er mwyn caniatáu i’r adeilad setlo.
A fydda i’n gallu gosod lluniau yno?
Byddwch yn gallu gosod lluniau. Gofynnwn i chi geisio cyngor staff y cyfleuster cyn gwneud hynny er mwyn sicrhau y defnyddir y gosodiadau cywir ac yr ystyrir ceblau trydan a phibellau dŵr.
A fyddaf yn gallu cael anifail anwes?
Byddwch yn y rhan fwyaf o achosion. Byddwn yn holi sut y bydd pobl yn gofalu am eu hanifail anwes, gan gadarnhau eu bod yn deall bod rhannau mewnol ac allanol yn cael eu rhannu.
A fyddaf yn gallu mynd allan pryd bynnag y byddaf yn dymuno a chael ymwelwyr?
Eich cartref chi yw eich fflat – gallwch fynd a dod a chael ymwelwyr pryd bynnag y byddwch yn dymuno.
Maes y Môr
Aberystwyth, Ceredigion
Lleolir ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Ngheredigion ym Mhen yr Angor, Trefechan, ac mae’n mwynhau golygfeydd godidog dros dref Aberystwyth a’r harbwr.
Plas yr Ywen
Treffynnon, Sir y Fflint
Mae llwybr trwy goetir hynafol yn rhan o’n hail gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, ar safle hen ysgol gynradd.
Llys Jasmine
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Sir y Fflint oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnig fflatiau arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia.
Llys Glan yr Afon
Y Drenewydd, Powys
Y cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mhowys, wedi’i leoli mewn man hyfryd ar lannau Afon Tafwys.
Nant y Môr
Prestatyn, Sir Ddinbych
Nant y Môr oedd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf, a agorwyd ar arfordir Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2011.
Under Construction
Brecon, Powys
Opening 2024, our extra care scheme in Brecon will be our second in Powys.
Under Construction
Brecon, Powys
Opening 2024, our extra care scheme in Brecon will be our second in Powys.