Hafan y Dderwen, Bro Morgannwg
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf, datblygiad o 70 o fflatiau, hunangynhwysol ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Dyma ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru a bydd ganddo lawer o’r cyfleusterau tebyg i’n cynlluniau presennol yn Aberystwyth, Treffynnon, Prestatyn, yr Wyddgrug a’r Drenewydd.
Mae’r cynllun gwerth £20 miliwn yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close, drws nesaf i Oak Court, ein cynllun tai presennol sydd ar gyfer pobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal dementia-gyfeillgar a weithredir gan yr awdurdod lleol.

Am y ddarpariaeth gofal ychwanegol ym Mhenarth
Yng ngofal ychwanegol Penarth bydd preswylwyr yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned gefnogol ac ofalgar.
Mae’r fflatiau yn cael eu dylunio i fod yn ynni-effeithlon i gadw biliau cyfleustodau yn fforddiadwy i breswylwyr.
Bydd y cynllun yn darparu amrediad o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2026.
Lleoliad
Cymhwysedd
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, neu os bydd gennych chi unrhyw ymholiad, ffoniwch 0800 052 2526.
Pobl sy’n byw ym Mro Morgannwg, neu sydd â chysylltiad â’r sir, fydd yn cael blaenoriaeth.
Oedran
50+ oed
Angen Gofal Ychwanegol
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen tai neu ofal a chymorth. Bydd asesiad o amgylchiadau pob unigolyn yn cael ei wneud i bennu eu cymhwystra am dai gofal ychwanegol.
Diweddariad datblygu
Dechreuodd ein partner adeiladu hirdymor, JG Hale Group, ar y gwaith yn ystod yr haf 2024. Mae’r gwaith tir wedi’i gwblhau a bydd y cam nesaf yn gweld fframwaith yr adeilad yn ymffurfio.
Ymholiadau
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am ofal ychwanegol Penarth ffoniwch 0800 052 2526.
Nodweddion
Mae’r cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Penarth yn cynnwys:
-
- ystafell gawod cerdded i mewn gysylltiedig
- ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
- bwyty ar y safle
- lolfeydd
- ystafell gwesteion
- cyfleusterau golchi dillad
- storfa sgwteri symudedd
- gerddi