Gallwch wneud cwyn neu mynegi eich pryder gyda ni:
- Drwy ffonio 0800 052 2526
- E-bostio contactus@wwha.co.uk
- Ar-lein
- Ysgrifennwch atom yn Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU
- Polisi Cwynion
Rydym yn cymryd cwynion a phryderon o ddifrif. Credwn mai’r peth gorau yw delio gyda materion yn syth a byddwn yn ceisio ei ddatrys i chi mewn ffordd anffurfiol yn y fan a’r lle neu’n cymryd camau i’w ddatrys. Byddwn yn adolygu eich cwyn/pryder yn ffurfiol os byddwch yn anfodlon neu os yw’ch cwyn/pryder yn un o natur ddifrifol iawn.
Fel rhan o’r broses benderfynu ffurfiol:-
Byddwn yn cydnabod eich cwyn gan nodi manylion y sawl a fydd yn ymchwilio i’ch cwyn.
Byddwn yn gofyn i chi beth ydych yn dymuno i ni ei wneud i ddatrys y broblem.
Ein nod fydd ymchwilio ac ymateb i chi cyn pen 20 diwrnod gwaith (ond efallai y bydd angen i ni ymestyn y cyfnod hwn os yw’n fater cymhleth).
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd; bydd lefel y cyswllt yn seiliedig ar y mater ei hun.