Os ydych chi’n dymuno symud tŷ, y ffordd hawsaf yw cyfnewid gyda rhywun arall sy’n byw mewn tŷ y mae landlord cymdeithasol cofrestredig yn berchen arno. Mae HomeSwapper yn wefan lle y gall pobl sy’n dymuno symud nodi manylion yr hyn y maent yn ei ddymuno a chael eu cyfateb gyda phobl arall sy’n dymuno symud.
Gall preswylwyr Tai Wales & West gofrestru am ddim ar HomeSwapper ac ar ôl i chi gofrestru, gallwch bostio manylion yr hyn yr ydych yn chwilio amdano a’r hyn yr ydych yn ei gyfnewid. Bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw bosibiliadau yn awtomatig, gan roi gwybod i chi am unrhyw gyfleoedd addas posibl.
Ar ôl i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw, siarad â’ch swyddog tai. Byddant yn anfon y ffurflen gyfnewid atoch i’w llenwi a’i dychwelyd cyn y gallwn ni gymeradwyo’r cam o gyfnewid.
Cyn gwneud cais cydgyfnewid, dylech sicrhau:
- Eich bod wedi bod yn denant ers dros 12 mis
- Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
- Bod eich cartref mewn cyflwr da iawn
- Bod yr eiddo yr ydych yn bwriadu symud iddo yn addas i’ch anghenion
- Nad ydych yn torri unrhyw un o amodau eraill eich contract deiliadaeth