Os ydych eisoes yn byw mewn cartref Wales & West ond nid yw’n addas i chi mwyach, gallwch ofyn am drosglwyddiad.Os ydych yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu Wrecsam siarad â’ch swyddog tai a fydd yn gallu trafod eich dewisiadau gyda chi.
Ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol yn yr ardal yr ydych yn dymuno symud iddi, gan ymuno â’u Cofrestr Tai Cyffredin nhw.
Cyn gwneud cais am drosglwyddiad, dylech sicrhau:
- Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
- Bod eich eiddo mewn cyflwr da
- Nad ydych yn peri unrhyw niwsans i’ch cymdogion
Efallai yr hoffech ystyried cydgyfnewid, oherwydd y gallai hyn gynyddu’ch siawns o ddod o hyd i gartref addas yn gyflymach.