Beth sy'n newydd
“Rydym wedi llwyddo i symud allan lawer yn gynharach nag yr oeddem yn ei ddisgwyl yn y lle cyntaf, wrth i ni gronni ecwiti yn yr eiddo.”
Roedd Emily, prynwr tro cyntaf lleol, a'i phartner, yn ei chael hi'n anodd cael tŷ y gallent fforddio ei brynu. Daethant ar draws tŷ dwy ystafell wely, gan lwyddo i'w brynu fel rhan o'r cynllun Perchentyaeth Cost Isel.
Preswylwyr a chymunedau yn mwynhau hwyl yr ŵyl
Mae dathliadau’r Nadolig wedi cynnwys partïon a pherfformiadau cerddorol, a dosbarthwyd anrhegion a hamperi i’r rhai yn yr angen mwyaf ledled Cymru.
Oriau cau dros y Nadolig 2024
Bydd ein swyddfeydd ar gau i ymwelwyr ar ddydd Llun 23 a dydd Mawrth 24 Rhagfyr; byddwn ar gau am y Nadolig y flwyddyn yma o 3pm ar ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024 tan 8am ar ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Neges Destun twyllodrus am Daliadau Tanwydd Gaeaf
Mae neges destun twyllodrus newydd sy’n cynnig disodli’r Lwfans Tanwydd Gaeaf yn targedu pensiynwyr.
Symud i gartref newydd ar ôl diagnosis salwch angheuol ‘yn newid popeth’ i gwpl o Wrecsam
Derbyniodd Andrew a Steven Benton allweddi i fyngalo yn Nhir Coed, ein datblygiad newydd yn Wrecsam, bedair blynedd ar ôl i Andrew gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd.
Rhieni yn dod at ei gilydd i ddod â hwyl dros y gwyliau i’w cymuned
Mae grŵp o breswylwyr TWW yn Aberteifi wedi dod at ei gilydd i drefnu gweithgareddau i’w plant ar yr ystâd lle maent yn byw.
Datblygiad tai Sir Gaerfyrddin yn cael ei agor yn swyddogol
Mae ein datblygiad tai cyntaf yn nhref Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, Maes yr Hufenfa, wedi’i agor yn swyddogol gan y Cyng. Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai ar gyfer Cyngor Sir Gâr.
“Mae fy lleoliad wedi rhoi llawer mwy o brofiad i mi ei ychwanegu at fy CV.”
Ymunodd Shivangi Shankar â Thai Wales & West ym mis Mehefin ar leoliad 16 wythnos trwy raglen "Get into Housing" a redir gan Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA).
Mae In Touch ein cylchgrawn i breswylwyr yn mynd yn ddigidol
Rydym yn cyhoeddi'r rhifyn diweddaraf o In Touch, ein cylchgrawn i breswylwyr ar-lein ac yn ddigidol yn unig.