Asbestos
Bydd rhai o’n heiddo a adeiladwyd rhwng y 1930au a diwedd y 1990au yn cynnwys rhai deunyddiau sy’n cynnwys asbestos. Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw asbestos, sut ydym yn cadw eich cartref yn ddiogel a beth yw eich cyfrifoldebau chi.
Beth yw Asbestos?
Mae asbestos yn fwyn naturiol a welir mewn creigiau o gwmpas y byd. Mae’n rhad, yn gryf ac yn gallu gwrthsefyll gwres, a dyma pam y penderfynwyd ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu am gymaint o amser, ond gall beri risg i iechyd mewn amgylchiadau penodol.
Mae asbestos yn annhebygol o beryglu eich iechyd os na chaiff ei ddifrodi ac os caiff ei adael yn llonydd. Dim ond os caiff ei ddifrodi y bydd yn beryglus, gan ei fod yn gallu rhyddhau ffibrau. Gall ffibrau o ddeunydd wedi’i ddifrodi beri salwch difrifol os caiff ei anadlu yn rheolaidd, felly mae’n bwysig ei fod yn cael ei drin mewn ffordd ofalus.

Sut ydym yn rheoli ac yn eich cadw yn ddiogel rhag asbestos yn y cartref
Arolygon
Rydym yn cynnal arolygon blynyddol o’r ardaloedd cymunol yn ein blociau o fflatiau a’n cynlluniau er mwyn monitro cyflwr unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn yr ardaloedd hyn. Rydym yn cofnodi’r mannau lle y byddwn yn darganfod asbestos mewn cofrestr, sy’n caniatáu i ni gadw golwg ar ei gyflwr a sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol cyn iddynt gyflawni unrhyw waith.
Rydym yn cynnal arolygon asbestos yn ein heiddo a’n cartrefi gwag a chyn gwneud unrhyw welliannau mewn cartrefi. Rydym hefyd yn adolygu’r wybodaeth am asbestos cyn gwneud unrhyw waith trwsio neu adnewyddu er mwyn eich diogelu chi a diogelu ein staff neu ein contractwyr.
Hyfforddiant Rheolaidd
Mae ein holl gydweithwyr, a’n contractwyr, yn cwblhau hyfforddiant rheolaidd am asbestos.
Y Gyfraith
Rydym yn gweithio yn unol â’r ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Nid oes angen gwaredu asbestos sydd mewn cyflwr da os nad yw hi’n debygol y bydd rhywbeth yn tarfu arno. Yn yr achosion hyn, byddwn yn gadael yr asbestos yn y fan a’r lle fel arfer.
Beth fydd angen i chi wneud i gadw’n ddiogel?
Fel arfer, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth.
Peidiwch â mynd i banig os ydych chi’n credu bod deunyddiau yn eich cartref sy’n cynnwys asbestos – cofiwch, dim ond os caiff ei ddifrodi neu os tarfir arno y bydd yn broblem. Ni fyddwn fel arfer yn gwaredu asbestos o’ch cartref oni bai ei bod yn debygol y bydd rhywbeth yn tarfu arno. Peidiwch â cheisio gwaredu neu darfu ar unrhyw beth yr ydych chi’n credu y gallai gynnwys asbestos. Cysylltwch â ni i gael caniatâd os hoffech wneud unrhyw waith DIY yn eich cartref. Hyd yn oed os nad ydych yn credu bod unrhyw asbestos, neu os nad ydych yn credu y byddwch yn tarfu ar unrhyw asbestos.
Gall asbestos fod yn bresennol mewn:
- tanciau dŵr oer
- deunydd lagio pibellau
- ffelt, dalennau a theils to
- araenau gweadog (megis waliau a nenfydau artecs)
- estyll tywydd a soffitiau
- sestonau toiledau
- paneli waliau
- byrddau ffiwsiau
- cwpwrdd gwresogydd/boeler
- teils llawr
- cafnau a phibellau dŵr glaw
- dalennau to garej
- paneli y tu ôl i danau neu wresogyddion
- paneli ar gefn drysau tân
- parwydydd
- dwythellau gwasanaethau
- pibellau awyr a phridd
Os byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod bod angen i ni drefnu bod arolwg asbestos yn cael ei gynnal, mae’n bwysig eich bod yn rhoi mynediad i ni i’ch cartref. Os nad yw hwn yn amser cyfleus i chi, dylech roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni allu ad-drefnu gyda chi.
Cysylltwch â ni:
- os ydych yn credu eich bod wedi difrodi neu darfu ar asbestos yn eich cartref, gan ffonio 0800 052 2526
- byddwn yn eich cynghori ymhellach ar y camau y bydd angen eu cymryd
Ar gyfer yr holl ymholiadau cyffredinol eraill am asbestos yn eich cartref, gallwch siarad â ni ar 0800 052 2526 neu droi at ein tudalen cysylltu ar-lein.