Diogelwch Dŵr

Mae’n hanfodol bod eich cyflenwad dŵr yn cael ei gadw yn lân ac yn ddiogel, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd i facteria fel Legionella ddatblygu. Isod, gallwch ddarganfod sut yr ydym yn cadw eich cartref yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau chi.

Beth yw Clefyd y Llengfilwyr?

Mae clefyd y llengfilwyr yn haint ar yr ysgyfaint a achosir gan facteria Legionella. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dal y clefyd trwy anadlu’r bacteria o ddefnynnau dŵr sy’n cynnwys lefel uchel o Legionella, sy’n achosi haint yn eich ysgyfaint. Mae tua 30 o achosion o Glefyd y Llengfilwyr yn cael eu hadrodd yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r symptomau yn debyg i symptomau’r ffliw gan gynnwys pennau tost, poenau yn y cyhyrau, blinder, peswch sych, a thwymyn. Mae clefyd y llengfilwyr yn fwy tebygol o effeithio arnoch os ydych chi dros 45 oed, os ydych yn ysmygu, yn yfed yn drwm, yn dioddef problemau anadlu, yn dioddef clefyd yn yr arennau ac os ydych chi’n dioddef o salwch hirdymor. Fodd bynnag, gall unrhyw un gael eu taro’n sâl gan y clefyd.

Ni fydd pawb a fydd yn cael cyswllt â’r bacteria yn mynd yn sâl, nid oes modd ei drosglwyddo o un person i’r llall, ac ni allwch ei ddal trwy yfed dŵr wedi’i heintio. Gall y bacteria fod yn bresennol mewn niferoedd bach mewn systemau dŵr fel y rhai yn y rhan fwyaf o gartrefi. Dim ond pan fydd y bacteria yn cael yr amser a’r amodau cywir i luosi i lefelau peryglus, megis pan na ddefnyddir y dŵr am gyfnod hir, y bydd yn dod yn broblem.

Sut ydym yn helpu i’ch cadw yn ddiogel yn eich cartref

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio digon o ddŵr mewn diwrnod i fflysio eu system yn llawn, felly nid oes fawr iawn o siawns y bydd niferoedd y bacteria yn lluosi i lefelau a fyddai’n achosi niwed.

Gall y camau hyn helpu i’ch cadw yn ddiogel yn eich cartref. Pan geir systemau dŵr cymunol, rydym yn rheoli diogelwch y dŵr trwy sicrhau bod y dŵr poeth yn boeth, a bod y dŵr oer yn oer. Mae mor syml â hynny!

Rydym yn monitro’r tymheredd yn rheolaidd ac yn sicrhau ein bod yn storio cyn lleied o ddŵr ag y bo modd ar draws ein cynlluniau. Yn ogystal, rydym yn fflysio cawodydd, toiledau a basnau ymolchi dwylo cymunol os na fyddant yn cael eu defnyddio yn aml iawn. 

Beth mae angen i chi ei wneud i gadw’n ddiogel?

Defnyddiwch eich tapiau cegin i brofi’r dŵr poeth ac oer 

Ar ôl ychydig funudau, os na fydd y dŵr mor boeth ag arfer ac os na fydd y dŵr oer yn teimlo’n oer, adroddwch am hyn.

Os byddwch yn defnyddio piben ddyfrhau neu bwll padlo yn eich gardd

Argymhellwn eich bod yn draenio’r rhain ar ôl i chi orffen gyda nhw, a gadael y bibell heb ei chysylltu fel na chaiff unrhyw ddŵr ei adael i sefyll.

Os oes gennych gasgen ddŵr yn eich gardd

Dylech ddefnyddio can dŵr yn hytrach na phiben er mwyn lleihau’r risg o chwistrellu dŵr.

 

Glanhau, digennu a diheintio pen eich cawod

Dylech wneud hyn bob 3-6 mis neu’n amlach na hynny os bydd unrhyw galchgen, llwydni neu dyfiant algâu i’w weld.

Os byddwch wedi bod i ffwrdd am dros wythnos 

Argymhellwn eich bod yn rhedeg y dŵr ar ôl i chi ddychwelyd trwy redeg y gawod am ychydig funudau cyn i chi fynd i mewn, fflysio eich toiled sawl gwaith (ar ôl cau sedd y toiled) a rhedeg y tapiau.   Mae’r un peth yn wir am dapiau a chawodydd nad ydych yn eu defnyddio’n aml. 

Cysylltwch â ni:

  • os fydd y dŵr oer yn aros yn gynnes (dros 20°C) ar ôl i chi ei redeg am ychydig funudau
  • os nad yw’r boeler neu’r tanc dŵr poeth yn gweithio’n iawn, yn enwedig os nad yw’r dŵr poeth o leiaf 50°C ar ôl iddo fod yn rhedeg am funud.
  • os bydd unrhyw faw, graean neu slwtsh yn y dŵr, neu os bydd wedi newid lliw
  • Os oes gennych chi broblem gyda’ch system ddŵr neu’ch gwaith plymio, gallwch adrodd am hyn trwy lenwi’r ffurflen adrodd am waith trwsio

 

Os bydd gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau cyffredinol am Legionella neu ddiogelwch dŵr, gallwch siarad â ni trwy ffionio 0800 052 2526 neu droi at ein tudalen cysylltu ar-lein.