Diogelwch Nwy
Rydym yn ymweld â phob cartref sydd â phibellau nwy neu ddyfeisiau nwy o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio. Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn i’w wneud mewn argyfwng, sut yr ydym yn helpu i gadw eich cartref yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau chi.
Os byddwch yn arogleuo nwy neu’n amau bod nwy yn gollwng
Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy am ddim ar 0800 111 999. Dim ond os ydych y tu allan i’ch cartref ac i ffwrdd o’r man lle’r ydych yn amau bod nwy yn gollwng y dylech ddefnyddio eich ffôn symudol.
Os yw eich synhwyrydd carbon monocsid yn canu neu’n gwneud sŵn, agorwch yr holl ddrysau a ffenestri, yna ffoniwch ni ar unwaith, ar 0800 052 2526.
• Diffoddwch eich holl ddyfeisiau nwy. Os allwch wneud hynny, diffoddwch y nwy wrth y mesurydd
• Agorwch eich ffenestri a’ch drysau
• Peidiwch â defnyddio unrhyw ddyfeisiau trydanol gan gynnwys eich switshys golau
• Peidiwch ag ysmygu, fepio na defnyddio fflamau noeth
Ar ôl ffonio’r Gwasanaeth Argyfwng Nwy, ffoniwch ni ar 0800 052 2526.
Dilynwch ganllawiau y gwasanaethau brys ac os byddant yn dweud wrthych i aros y tu allan, peidiwch â mynd yn ôl i mewn.
Ar ôl stopio’r nwy rhag gollwng, bydd y Peiriannydd Nwy yn esbonio os bydd angen gwneud unrhyw waith pellach. A fyddech gystal â chadw unrhyw waith papur a ddarparir gan y peiriannydd a wnaeth y system yn ddiogel oherwydd y bydd angen i ni ei gael ar gyfer ein cofnodion.

A ydych chi’n amau gwenwyno gan garbon monocsid neu a yw’ch larwm yn canu?
Peidiwch ag oedi – dylech gael awyr iach yn syth.
Agorwch ddrysau a ffenestri, diffoddwch unrhyw ddyfeisiau nwy a gadewch eich cartref.
Siaradwch â’ch meddyg ar unwaith neu ewch i’r ysbyty os oes gennych chi symptomau gwenwyno gan garbon monocsid.
Os yw eich synhwyrydd carbon monocsid yn canu, agorwch yr holl ddrysau a ffenestri ac yna, ffoniwch ni yn syth ar 0800 052 2526.
Os ydych chi’n credu bod perygl, ffoniwch y Linell Gymorth Argyfwng Nwy ar 0800 111 999.
Sut yr ydym yn helpu i’ch cadw yn ddiogel yn eich cartref
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnom i gynnal archwiliad nwy bob blwyddyn er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref. Byddwn yn archwilio eich larymau carbon monocsid a mwg ar yr un pryd hefyd.
Byddwn yn anfon copi o’r dystysgrif atoch yn dilyn yr archwiliad hwn ar gyfer eich cofnodion.
Efallai y bydd dyfeisiau nwy na chânt eu harchwilio yn mynd yn anniogel a gallant gynhyrchu carbon monocsid, sy’n gallu bygwth bywydau.
Beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cadw’n ddiogel?
Byddwn yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad fel y gall un o’n peirianwyr Gas Safe cofrestredig gwblhau archwiliad diogelwch nwy cyn i’ch tystysgrif gyfredol ddod i ben. Mae’n hollbwysig eich bod yn cadw at yr apwyntiad hwn. Yn ystod yr apwyntiad hefyd, byddwn yn cynnal archwiliad gweledol o ddyfeisiau nwy yr ydych yn berchen arnynt (fel cwcer) ac yn dweud wrthych os bydd angen rhoi sylw iddynt.
Bydd angen i chi sicrhau bod rhywun dros 18 oed yn bresennol er mwyn cynnig mynediad i’ch cartref. Os na fydd yr apwyntiad yn gyfleus, rhaid i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad newydd ar unwaith.
Os na fyddwch yn cynnig mynediad i ni er mwyn cynnal yr archwiliad pwysig hwn, efallai y bydd yn golygu y bydd yn rhaid i ni gymryd camau mewn llys i sicrhau mynediad. Nid yw hwn yn rhywbeth yr ydym fyth yn dymuno ei wneud, ond mae’n hanfodol mewn rhai achosion ein bod yn gallu cynnal yr archwiliadau diogelwch pwysig hyn.
A fyddech gystal â’n helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel trwy ganiatáu i ni gynnal eich prawf diogelwch nwy blynyddol.
Cysylltwch â ni:
- os ydych chi’n credu eich bod yn arogli nwy, dilynwch y cyngor uchod yn syth
- os ydych chi’n credu bod nam ar eich system wresogi neu’ch system dŵr poeth trwy lenwi’r ffurflen adrodd am waith trwsio
- os yw eich synhwyrydd carbon monocsid yn canu neu’n gwneud sŵn, agorwch yr holl ffenestri a’r drysau a ffoniwch ni ar unwaith ar 0800 052 2526
Ar gyfer yr holl ymholiadau eraill am ddiogelwch nwy yn eich cartref, gallwch siarad â ni trwy ffonio 0800 052 2526 neu droi at ein tudalen cysylltu ar-lein.