Diogelwch Tân

Os bydd tân yn cychwyn yn eich cartref, dylech adael ar unwaith a ffonio 999 cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny. Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn i’w wneud mewn argyfwng, sut yr ydym yn helpu i gadw eich cartref yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau chi.

Sut ydym yn helpu i’ch cadw yn ddiogel gartref

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i fod yn ddiogel ac i gadw’ch cartref yn ddiogel rhag tân; rydym yn asesu’r risg gan dân ym mhob bloc o fflatiau ac adeiladau eraill sy’n cynnwys mannau cymunol mewnol o leiaf bob blwyddyn. Rydym hefyd yn gwneud hyn ar gyfer blociau sy’n cynnwys fflatiau, ond nad oes ganddynt unrhyw ardaloedd mewnol a rennir (a elwir yn fflatiau cerdded-atynt) o leiaf bob dwy flynedd.

Rydym yn cynnal yr holl systemau diogelwch tân yn ein holl gartrefi. Mae’r rhain yn cynnwys larymau tân, synwyryddion mwg/gwres, a chwistrellwyr. Ceir llwybrau dianc mewn argyfwng mewn adeiladau a rennir er mwyn helpu i sicrhau y gallwch adael eich cartref yn ddiogel os bydd tân.

Byddwn yn eich helpu i ddeall yr hyn i’w wneud os bydd tân yn eich cartref.

Byddwn hefyd yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau y gallent achosi risg tân annerbyniol.

 

Beth mae ei angen arnoch er mwyn cadw’n ddiogel?

Helpwch i gadw’n ddiogel a chadw eich cymdogion yn ddiogel trwy:

 

  • beidio ag achosi difrod i’r waliau, y drysau tân, y lloriau na’r nenfydau, neu unrhyw beth arall a gynlluniwyd i helpu i atal tân rhag lledaenu

  • peidio gwaredu unrhyw gaewyr drysau neu ddal drysau tân ar agor

  • gofyn am ganiatâd os ydych chi’n dymuno gwneud unrhyw waith ar eich cartref trwy lenwi ein ffurflen cais am newid

  • peidio â defnyddio barbiciw neu storio silindrau nwy ar falconi a chadw’r safle yn rhydd rhag annibendod a deunyddiau sy’n gallu mynd ar dân

  • dilyn y cyngor ynghylch defnyddio a gwefru e-sgwteri ac e-feiciau yn ddiogel

Darparir rhagor o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel yn eich cartref gan y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru:

Gogledd Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

De Cymru

 

Mae’n bwysig eich bod yn profi eich larymau mwg unwaith yr wythnos. Edrychwch ar ein canllaw i ddefnyddwyr Synwyryddion Mwg a Gwres. Gweld ein rhestr lawn o ganllawiau i ddefnyddwyr cartrefi.

Gwacáu eich eiddo

Os oes tân sy’n effeithio ar eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol sut i gadw’n ddiogel. Os bydd tân, dilynwch eich strategaeth ddynodedig ar gyfer gwacáu os bydd tân.

 

Rydw i’n byw mewn tŷ

Mae’n bwysig bod gennych chi eich cynllun dianc syml eich hun:

  1. Gadael
  2. Aros allan
  3. Ffonio 999 cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny

Y ffordd orau yw’r ffordd arferol y byddwch yn mynd i mewn ac allan o’ch cartref.

Cynlluniwch ail lwybr rhag ofn y bydd rhwystr ar draws yr un cyntaf – ystyriwch ffenestri.

Dylech gadw allweddi drysau a ffenestri mewn man lle y gallwch ddod o hyd iddynt.

Os allech chi – neu unrhyw un yr ydych yn byw gyda nhw – ei chael hi’n anodd dianc yn gyflym heb gymorth mewn argyfwng, dylech baratoi cynlluniau ychwanegol er mwyn eu tywys i fan diogel – gallwn eich helpu i gynllunio hyn.

Sicrhewch bod pawb yn eich cartref yn deall yr hyn i’w wneud os bydd tân.

Rydw i’n byw mewn adeilad yr wyf yn ei rannu gyda phreswylwyr eraill fel fflat:

Fy nghynllun i er mwyn gwacáu os bydd tân yw gwacáu’n llawn

Fy nghynllun i er mwyn gwacáu os bydd tân yw gwacáu’n llawn

Mae eich cynllun gwacáu os bydd tân yn golygu y dylech fynd i’r man ymgynnull os bydd y larwm yn canu.

Os bydd tân yn cychwyn yn eich cartref, gadewch yr ystafell lle y mae’r tân ar unwaith, gan gau’r drws.

Dywedwch wrth bawb i adael eich cartref.

Caewch ddrws ffrynt eich fflat y tu ôl i chi.

Rhybuddiwch eraill trwy ddefnyddio pwynt galw ‘torri gwydr’ os oes un wedi cael ei ddarparu.

Pan fyddwch yn ddiogel, ffoniwch 999 ac arhoswch y tu allan i’r gwasanaeth tân ac achub i gyrraedd.

Fy nghynllun gwacáu os bydd tân yw ‘diogel i aros’ (ond byddwch yn barod i adael)

Fy nghynllun gwacáu os bydd tân yw ‘diogel i aros’ (ond byddwch yn barod i adael)

Dyluniwyd eich adeilad i gyfyngu tân i’r fflat lle y cychwynnodd.

Mae hyn yn golygu y bydd hi fel arfer yn ddiogel i chi aros yn eich fflat os bydd y tân mewn rhan arall.

Gadewch yn syth os bydd y Gwasanaeth Tân yn dweud i chi wneud hynny, neu os ydych chi’n cael eich effeithio gan fwg neu dân.

Os bydd tân yn cychwyn yn eich cartref, gadewch yr ystafell lle y mae’r tân ar unwaith, a chaewch y drws.

Dywedwch wrth bawb i adael y fflat. Caewch ddrws ffrynt eich fflat y tu ôl i chi.

Pan fyddwch allan o’r adeilad ac yn ddiogel, ffoniwch 999 ac arhoswch y tu allan i’r gwasanaeth tân ac achub i gyrraedd.

Fy nghynllun gwacáu os bydd tân yw ‘diogel i aros’ yn fy fflat ond gwacáu o ardaloedd cyffredin

Fy nghynllun gwacáu os bydd tân yw ‘diogel i aros’ yn fy fflat ond gwacáu o ardaloedd cyffredin

Dyluniwyd eich adeilad i gyfyngu tân i’r fflat lle y cychwynnodd.

Mae hyn yn golygu y bydd hi fel arfer yn ddiogel i chi aros yn eich fflat os bydd y tân mewn rhan arall. Fodd bynnag, os bydd y Gwasanaeth Tân yn dweud wrthych i adael, neu os byddwch yn teimlo dan fygythiad gan dân, rhaid i chi adael yr adeilad.

Os bydd tân yn cychwyn yn eich cartref, gadewch yr ystafell lle y mae’r tân ar unwaith, a chaewch y drws.

Dywedwch wrth bawb i adael y fflat. Caewch ddrws ffrynt eich fflat y tu ôl i chi.

Pan fyddwch allan o’r adeilad ac yn ddiogel, ffoniwch 999 ac arhoswch y tu allan i’r gwasanaeth tân ac achub i gyrraedd.

Os byddwch yn gweld neu’n clywed am dân mewn rhan arall o’r adeilad, ffoniwch y Gwasanaeth Tân ar 999 a dilynwch eu cyfarwyddiadau. Gadewch yn syth os bydd y Gwasanaeth Tân yn dweud i chi wneud hynny, neu os byddwch yn cael eich effeithio gan fwg neu dân.

Cysylltwch â ni:

  • os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiogelwch tân yn eich cartref neu’ch cynllun
  • os ydych chi’n agored i niwed mewn ffordd benodol sy’n golygu eich bod mewn mwy o berygl os bydd tân, neu sy’n eich atal rhag gadael yn ddiogel

Ar gyfer yr holl ymholiadau eraill ynghylch diogelwch tân yn eich cartref, gallwch siarad â ni trwy ffonio 0800 052 2526 neu droi at ein tudalen cysylltu ar-lein.