Diogelwch Trydanol

Rydym yn ymweld â’n holl gartrefi o leiaf unwaith bob 5 mlynedd i sicrhau bod y system drydanol yn parhau i fod yn ddiogel i’w defnyddio. Mae’r dudalen hon yn esbonio yr hyn i’w wneud mewn argyfwng, sut y byddwn yn helpu i gadw eich cartref yn ddiogel a beth yw eich cyfrifoldebau chi.

Pam bod diogelwch trydanol yn bwysig? 

Mae’r rhan fwyaf o siociau trydanol, llosgiadau a thanau trydanol yn digwydd yn ein cartrefi oherwydd namau neu ddifrod i’r weirin neu i ddyfeisiau, neu pan na ddefnyddir dyfeisiau trydanol yn y ffordd gywir.  

Ceir dros 20,000 o danau yn y DU bob blwyddyn a achosir gan namau trydanol.  

Sut ydym yn helpu i’ch cadw yn ddiogel yn y cartref

Mae’n hanfodol bod eich gwaith gosod trydanol yn cael ei archwilio yn rheolaidd.

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i ni ddarparu Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (EICR) i chi ar ôl profi’r weirin a’r offer trydanol sefydlog yn eich cartref o leiaf bob pum mlynedd neu pan fydd newid mewn tenantiaeth.

Bydd yr EICR yn: 

  • Nodi os bydd gennych chi unrhyw broblemau gorlwytho
  • Darganfod unrhyw beryglon tân a risgiau siociau trydanol
  • Nodi unrhyw waith trydanol diffygiol
  • Archwilio eich larymau mwg a charbon monocsid a sicrhau eu bod yn gyfredol ac wedi’u profi
  • Sicrhau daearu a bondio cywir

Bydd ein trydanwyr a’n contractwyr yn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel trwy ddatrys unrhyw faterion peryglus ar unwaith pan fyddant yn archwilio eich cartref.

Pan fydd hi’n bryd cynnal eich EICR, mae’n bwysig eich bod yn cynnig mynediad i ni i’ch cartref fel y gallwn sicrhau eich bod chi a’ch aelwyd yn ddiogel.   Byddai ein hatal rhag cael mynediad i’ch cartref yn golygu eich bod yn torri amodau eich Contract Meddiannaeth. Unwaith y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, byddwn yn anfon copi o’r EICR atoch ar gyfer eich cofnodion o fewn 14 diwrnod.

Beth mae angen i chi ei wneud i gadw’n ddiogel? 

Gydag amser, gall dyfeisiau a gosodiadau trydanol ddirywio a chael eu difrodi, gan arwain at risgiau posibl.

Er mwyn eich cadw chi a’ch aelwyd yn ddiogel:

  • Peidiwch ag anwybyddu unrhyw ddifrod i switshys, socedi neu ddyfeisiau
  • Peidiwch â chamddefnyddio eich gosodiadau, eich dyfeisiau neu’ch cyfarpar trydanol
  • Dylech osgoi gorlwytho socedi – edrychwch i weld a ydych chi wedi mynd dros yr uchafswm o ran llwyth trwy ddefnyddio cyfleuster cyfrifo soced Electrical Safety First.    Os nad oes gennych chi ddigon o socedi ar gyfer eich anghenion, cysylltwch â ni
  • Pan fyddwn yn cysylltu â chi, a fyddech gystal â chytuno ar ddiwrnod ac amser addas i’n trydanwyr penodedig i fynychu
  • Rhowch fynediad i ni fel y gallwn gynnal a chadw eich gosodiad trydanol yn rheolaidd, a sicrhau ei fod yn ddiogel
  • Rhaid i chi ofyn am ganiatâd wrthym cyn gwneud unrhyw waith trydanol, fel gosod socedi ychwanegol.   Byddwn yn eich cynghori am y ffordd orau o wneud hyn yn ddiogel, gan gynnwys sut i ddod o hyd i beiriannydd cymwys

Os bydd gennych chi unrhyw weirin trydanol sydd yn y golwg, ffoniwch ni ar 0800 052 2526 ar unwaith

Peidiwch â chyffwrdd y weirin trydanol sydd yn y golwg na mynd yn agos iddo.   Os yw’r difrod i switsh golau, peidiwch â chyffwrdd y switsh sydd wedi’i ddifrodi na mynd yn agos iddo.

Cysylltwch â ni:

  • os ydych chi’n credu bod gennych chi weirin, socedi, switshys neu osodiadau golau diffygiol neu wedi’u difrodi yn eich cartref, dylech gysylltu â ni ar unwaith trwy ffonio 0800 052 2526.
  • byddwn yn eich cynghori ymhellach am y camau y bydd angen eu cymryd

 

Ar gyfer yr holl ymholiadau cyffredinol eraill ynghylch diogelwch trydanol yn eich cartref, gallwch siarad â ni trwy ffonio 0800 052 2526 neu droi at ein tudalen cysylltu ar-lein.