Lleithder a llwydni yn eich cartref – a sut i leihau’r risg
Os ydych chi’n cael problemau lleithder neu lwydni yn eich cartref, mae angen i ni gael gwybod amdanynt. A fyddech gystal ag adrodd wrthym amdanynt trwy ff onio 0800 052 2526, dewis 2.
Os byddwch yn dweud wrthym bod lleithder neu lwydni yn eich cartref, byddwn yn trefnu ymweliad i weld yr hyn y gallwn ei wneud i helpu ac er mwyn archwilio a oes unrhyw broblemau gyda’r eiddo ei hun. Mae pethau y gallech chi eu gwneud hefyd.
Bydd cyddwysiad yn ff urfi o pan na fydd yr aer y tu mewn yn gallu dal mwy o leithder, ac mae’n gallu achosi llwydni. Mae llwydni yn edrych fel smotiau du, llwyd neu wyrdd bychain ar y wal neu ar arwynebau eraill yn eich cartref.
Rydym yma i helpu. Os bydd gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch.
Ffoniwch ni ar 0800 052 2526
- Dewis 2 i adrodd am leithder neu lwydni
- Dewis 3 am help a chyngor ynghylch grwesogi eich cartref
Beth allwch chi ei wneud i atal llwydni rhag tyfu yn eich cartref?
Ffenestri: Dylech gadw eich fentiau awyru ar agor ar eich ffenestri. Dylech agor eich ffenestri rhyw ychydig yn rheolaidd er mwyn awyru eich cartref. Yn ddelfrydol, dylai’r llenni gyrraedd ychydig dros y silff ffenestr ac ni ddylent gyffwrdd y gwydr, sy’n gallu arwain at lwydni. Ceisiwch osgoi gorchuddio rheiddiaduron gyda llenni hir, sy’n gallu atal gwres rhag treiddio i’r ystafell.
Dodrefn: Gadewch fwlch rhwng eich dodrefn a’r waliau allanol. Mae’n well peidio rhoi dodrefn o flaen rheiddiaduron, gan bod hyn yn gallu atal gwres rhag ymdreiddio i’r ystafell. Yn ogystal, dylech osgoi rhoi matresi ar y llawr. Mae hyn yn atal pocedi o aer llonydd a llaith rhag ffurfio.
Cegin: Pan fyddwch yn coginio neu’n golchi dillad, mae’n well cadw drws y gegin ar gau, gan agor ffenestr. Dylech gadw cloriau sosbenni arnynt ac os oes gennych chi ffan echdynnu, dylech ei throi ymlaen er mwyn anfon yr aer gwlyb allan.
Ystafell ymolchi: Pan fyddwch yn cael cawod, agorwch y ffenestr. Os oes gennych chi ffan echdynnu, gwnewch yn siŵr ei bod ymlaen a dylech gadw’r drws ar gau er mwyn atal y lleithder rhag lledaenu.
Waliau allanol:Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw fagiau sbwriel neu wrthrychau eraill wedi’u gosod yn erbyn waliau allanol eich cartref. Mae’r rhain yn atal awyru a heulwen rhag cynhesu’r waliau.
Sychu dillad: Mae’n well osgoi defnyddio rheiddiaduron i sychu dillad – yn hytrach, defnyddiwch resel sychu mewn ystafell fel yr ystafell ymolchi lle y gallwch gau’r drws, agor ffenestr a defnyddio ffan echdynnu. Mae peiriant sychu dillad yn helpu, ar yr amod ei fod wedi cael ei blymio i mewn yn gywir, fel bod yr aer gwlyb yn mynd y tu allan.
Gwresogi: Cadw eich cartref yn gynnes. Gall aer cynnes ddal mwy o leithder, gan achosi llai o gyddwysiad i ffurfio ar arwynebau. Os ydych chi’n gofidio ynghylch gwresogi eich cartref, ffoniwch ni ar 0800 052 2526 neu cysylltwch â’ch Swyddog Tai, dewis 3.