Canllawiau i Ddefnyddwyr Cartref
Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer
Darparir eich gwres a’ch dŵr poeth gan bwmp gwres ffynhonnell aer. Mae modd gweld hwn yn yr ardd fel arfer wrth ochr eich cartref neu yn y cefn.
Boeler, Gwres a Dŵr Poeth
Caiff dŵr poeth ei gyflenwi yn ôl y galw, a gallwch newid tymheredd eich gwres trwy ddefnyddio’r rheolydd thermostatig sydd yn eich cyntedd.
Cysylltiadau BT
Mae blwch Openreach y tu allan i’ch cartref, wrth du blaen yr eiddo fel arfer. Mae hwn yn cyflenwi rhyngrwyd band eang i’ch cartref.
Uned Defnyddiwr / Blwch ffiwsiau
Gallwch weld pa ddyfais sy’n ddiffygiol trwy edrych yn y blwch ffiwsiau. Bydd hwn mewn cwpwrdd ar y llawr gwaelod, ger y drws ffrynt neu’r grisiau fel arfer.
Ffaniau EnviroVent
Er mwyn helpu i atal llwydni a lleithder rhag cronni yn eich cartref, gosodwyd ffan Envirovent yn eich cegin a’ch ystafell ymolchi neu’ch ystafell wlyb.
Blwch Mesurydd
Mae’r blwch mesurydd nwy a thrydan tu allan eich cartref, naill ai ger drws ffrynt yr eiddo neu ar ochr yr eiddo.
Synhwyrydd mwg a gwres
Mae dau larwm mwg yn eich cartref, un yn y cyntedd ac un ar y landin. Diben larymau mwg yw sicrhau eich diogelwch os bydd tân unrhyw le yn eich cartref.
Paneli Solar
Mae paneli ffotofoltäig wedi cael eu gosod ar eich cartref, a’r enw mwy cyffredin amdanynt yw paneli solar.
Stop Tap a Switsh Sure Stop
Os bydd dŵr yn gollwng yn eich cartref, gallwch atal y cyflenwad dŵr yn hawdd gan ddefnyddio stop-tap neu switsh Sure Stop.
Reiddiaduron Stôr Trydan
Bydd gan eich cartref reiddiaduron stôr wedi’u gosod yn yr ystafell fyw, y cyntedd a’r ystafelloedd gwely.
Tanc Dŵr Poeth
Mae tanc dŵr poeth eich cartref yn dal digon o ddŵr poeth er mwyn cael dau bath llawn neu sawl cawod.
Uned MVHR
Mae uned MVHR wedi cael ei gosod yn eich cartref, mewn cwpwrdd neu atig fel arfer.