Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Gwresogydd Panel

Mae eich cartref yn cael ei gynhesu gan wresogydd panel trydan, y gellir ei weithredu drwy ddefnyddio’r panel rheoli ar ben y gwresogydd. Gellir rheoli eich tymheredd yn hawdd gan ddefnyddio’r saethau i fyny ac i lawr ar y rheolydd.

Mae’r gwres mewn côd lliwiau. Byddai glas yn dangos bod y tymheredd  oes, mae gwyrdd yn dymheredd amgylchynol, a byddai coch yn golygu bod y tymheredd yn boeth.

Bydd eich gwresogydd panel eisoes wedi cael yr amser a’r dyddiad wedi’u gosod, ac wedi’i osod i dymheredd amgylchynol gan y gosodwr.

Mae gosodiadau pellach yn caniatáu i chi osod amserydd, cael gwres rheoledig trwy’r dydd, neu weithrediad lle gellir gosod tymheredd isaf tra i ffwrdd.

Mae’r dull amserydd wedi’i osod i ‘Amser Defnyddiwr’ ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y bydd y gwres yn dod ymlaen ar wahanol adegau o’r dydd. Yn gyntaf am 6.30am tan 9:30am, yna 11am tan 1pm, yna 3pm i 5pm, ac yn olaf am 6pm tan 10am.

Mae hyn wedi ei osod i holl ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos. Os nad yw hyn yn addas ar gyfer eich trefniadau byw, gallwn eich helpu i addasu hwn ar y diwrnod symud i mewn.

Mae yna hefyd hwb gweithredu yn eich gosodiadau a fydd yn rhoi hwb i’r rheiddiadur am 30 munud os oes angen ychydig o wres arnoch.

Ffaniau EnviroVent

Blwch Mesurydd

Synhwyrydd mwg

Paneli Solar