Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.
Sut i ddefnyddio: Uned MVHR
Mae uned MVHR wedi cael ei gosod yn eich cartref, mewn cwpwrdd neu atig fel arfer.
Mae wastad ymlaen, gan redeg yn dawel yn y cefndir.
Mae’r system yn cymryd hen aer, arogleuon a lleithder allan trwy dyllau aer wedi’u gosod yn nenfwd y gegin a’r ystafell ymolchi.
Mae’n creu amgylchedd byw iachach trwy ailgylchu aer cynnes a llaith,a helpu lleithder rhag cronni ac atal cyddwysiad a allai achosi llwydni.
Mae’n troi ymlaen yn awtomatig gyda golau’r ystafell ymolchi, ac mae switsh hwb wedi’i leoli yn y gegin neu’r ystafell ymolchi, y dylech ei droi ymlaen pan fyddwch yn coginio neu’n defnyddio peiriant sychu dillad.
Efallai y bydd yn aros ymlaen am gyfnod ar ôl i chi ei droi i ffwrdd, nes bydd yr holl leithder dros ben wedi clirio fel arfer.