Skip to content
Iechyd a lles

Danteithion hawdd i’w mwynhau ar bicnic ar gyfer y teulu cyfan

Os ydych chi’n trefnu diwrnod allan yn y parc neu’n bwriadu mwynhau amser te yn yr ardd, dyma rai syniadau am fwyd picnic hawdd ac nad ydynt yn costio rhyw lawer. 

Brechdanau troell  

Gyda’u chwyrliadau retro, gall brechdanau troell lonni gwledd yn yr awyr agored.  Maent yn hawdd i’w gwneud gan ddefnyddio bara tafellog neu dortillas. 

Rhowch sbred neu mayonnaise ar y bara, i’r ochrau, yna sleisys caws, neu gig a letys.  Rholiwch y rhain yn dynn fel selsig mewn cling ffilm a’u hoeri yn yr oergell am ddwy awr neu dros nos, gan ddibynnu faint o amser sydd gennych chi. 

Ar ôl eu tynnu allan o’r oergell, dadlapiwch bob parsel a’u sleisio i greu sleisys troell. 

Rhowch gynnig ar ddefnyddio llenwadau eraill fel caws hufen, sbigoglys a ham, pesto a chyw iâr, caws Cheddar wedi’i gratio a sos coch neu lysiau wedi’u rhostio, ham neu gaws. 

 

Tortillas Llysieuol  

Llanwch dortillas gwenith cyflawn gyda hwmws, llysiau wedi’u torri ac ysgeintiad o gaws. 

 

Salad Pasta  

Un da i’w wneud ymlaen llaw.  Coginiwch eich hoff basta, ychwanegwch lysiau wedi’u torri fel pys, corn, neu buprynnau, a’u cymysgu gyda finegrét syml neu ddresin Eidalaidd hufennog.  Gallwch ychwanegu cyw iâr dros ben sydd wedi’i goginio neu gaws wedi’i gratio iddo. 

Saladau Pot Jam  

Cadwch eich potiau gwydr gwag a’u golchi’n drylwyr er mwyn eu defnyddio i wneud y rhain.  Rhowch eich hoff gynhwysion salad mewn pot mewn haenau (gwyrdd ar y gwaelod, dresin ar eu pen) er mwyn ei gludo yn hawdd, gan ysgwyd y pot i gyfuno’r cynhwysion pan fyddwch yn barod i’w fwyta. 

 

Plât Llysiau a Dipiau  

Torrwch lysiau fel moron, ciwcymbr, seleri, tomatos bychain neu fara pitta.  Paciwch y rhain gyda hwmws a brynwyd mewn siop neu ewch ati i wneud eich hwmws eich hun.  Mae cymysgu iogwrt plaen a pherlysiau wedi’u malu fel dil neu sifys yn creu dip syml.  Rhowch bopeth mewn cynhwyswyr ar wahân i’w cadw’n ffres. 

 

Cebabau Ffrwythau  

Rhowch ffrwythau lliwgar fel aeron, grawnwin, darnau melon neu binafal ar sgiwerau i greu danteithfwyd iach a braf. 

 

Cwcis Heb eu Pobi  

Mae nifer fawr o ryseitiau ar-lein am gwcis heb eu pobi sy’n cymryd munudau i’w gwneud ac sy’n defnyddio bwydydd cyffredin o’r pantri fel ceirch, cnau, ffrwythau sych, menyn pysgnau a darnau siocled. 

 

Parfaits Iogwrt 

Rhowch haenau o iogwrt, granola a ffrwythau ffres mewn cynhwysydd i wneud danteithfwyd melys ac iach. 

Cyngor

1

Byddwch yn glyfar wrth siopa:  Edrychwch am gynigion arbennig a brandiau siopau wrth siopa bwyd. 

2

Rhowch eich bwyd mewn cynhwyswyr y mae modd eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. 

3

Ewch â chwdyn oeri gyda chi i gadw pethau’n oer, yn enwedig ar ddiwrnod poeth. 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.