Skip to content
Iechyd a lles

Manteision gwirfoddoli

“Mae gwirfoddoli yn rhoi rheswm i mi adael y tŷ ac mae wedi gwneud fy mywyd yn llawer mwy diddorol.”

Preswylwyr Tai Wales & West  Colin Wilcock.

Ar draws Cymru, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniadau rhyfeddol i’r cymunedau lle y maent yn byw ac yn gweithio. 

Os ydynt yn gweithio mewn siopau elusennol, yn helpu mewn pantrïoedd bwyd, yn codi arian neu’n cynnig clust i wrando ar linellau cymorth a gwybodaeth, mae’r cyfleoedd i wirfoddoli mor unigol â’r bobl sy’n rhoi eu hamser. 

Bob blwyddyn ym mis Mehefin, cânt eu dathlu yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr, sy’n ceisio ysbrydoli mwy o bobl i wneud gwahaniaeth. 

Yng Nghymru, mae sefydliadau fel WCVA  a TSSW (Cymorth Trydydd Sector Cymru) yn cynorthwyo gwirfoddoli.  

Os ydych chi’n dymuno gwneud gwaith gwirfoddol, mae Gwirfoddoli Cymru yn lle da i gychwyn.  Ei nod yw gwneud gwirfoddoli yn hawdd i wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol. 

Mae’n hysbysebu miloedd o gyfleoedd gwirfoddoli gan elusennau a mudiadau gwirfoddol ar draws Cymru. 

Gallwch chwilio i weld yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.

Os byddwch yn gweld rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, gallwch gofrestru am ddim ac ymgeisio. 

Gall pawb wirfoddoli.  Nid yw eich oedran, eich cefndir a’ch profiad blaenorol yn gwneud gwahaniaeth – mae cyfle allan yno sy’n addas i bawb.  Os na fyddwch yn dod o hyd i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano yn syth, daliwch ati i edrych. 

 

Preswylwyr Treffynnon yn helpu yn agos i’w cartrefi  

Mae Colin Wilcock a Richard Allum yn helpu yn Amgueddfa Gymunedol Ardal Treffynnon ger eu cartrefi yng Ngogledd Cymru. 

Mae’r profiad y maent wedi’i gael wrth weini cwsmeriaid yn y caffi a chynnig cymorth i staff yr amgueddfa wedi rhoi hwb i’w sgiliau a’u hyder. 

Dywedodd Richard:  “Mae gwirfoddoli yn yr amgueddfa yn fy nghael i allan o’r tŷ ac mae siarad gyda phobl wedi helpu fy iechyd meddwl. 

“Rydw i wedi dysgu rhai pethau diddorol am hanes Treffynnon hefyd trwy fod yno a siarad â’r bobl sy’n dod i mewn i’r amgueddfa.” 

Dywedodd Colin:  “Mae gweithio yn yr amgueddfa yn rhoi teimlad da i mi.”

“Mae gwirfoddoli yn cynnig rheswm i mi adael y tŷ ac mae wedi gwneud fy mywyd yn llawer mwy diddorol.  Os na fyddwn i yma, byddwn yn teimlo’n ddiflas gartref.  Mae’n dda cael codi a dod allan a gwneud pethau.” 

1
Banciau bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ychydig help gan Rosemary 

Mae helpu yn ei phantrïoedd bwyd lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi rheswm i Rosemary Bell godi bob dydd. 

Mae Rosemary, 77 oed, yn dioddef afiechyd, ond dair gwaith yr wythnos, mae hi’n gwirfoddoli mewn pantrïoedd bwyd lleol sy’n cael eu rhedeg gan fudiad cymunedol Baobab Bach yn Nant-y-moel, Maesteg a Wildmill. 

Mae Baobab Bach yn rhedeg rhwydwaith o bantrïoedd bwyd ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr, lle y gall pobl sy’n ymuno â nhw brynu bagiau o fwyd am £5, sy’n cynnwys eitemau sy’n cael eu harbed rhag cael eu taflu i ffwrdd gan archfarchnadoedd. 

“Byddaf yn gwneud paneidiau o de a choffi i’r bobl sy’n dod i’r pantri.  Neu byddaf yn helpu trwy weini’r ymwelwyr, a rhoi llysiau mewn bagiau er mwyn iddynt fynd â nhw gartref gyda nhw,” dywedodd Rosemary. 

“Nid yw’n teimlo fel gwaith o gwbl.” 

“Mae’n dda i’m hiechyd meddwl.  Pan fyddaf yn helpu pobl, ni fyddaf yn meddwl am fy hunan a’m problemau.  Mae’n rhoi rheswm i mi godi a gadael fy fflat.” 

“Mae Alison sy’n rhedeg y pantrïoedd, mor gymwynasgar ac mae’n cadw llygad arnaf. 

“Mae gwirfoddoli yn y pantri wedi achub fy mywyd.  Ni fyddwn yn gallu bod hebddo.”

 

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.