Skip to content
Newyddion Preswylwyr 

Murlun ysgol yn meithrin cysylltiadau gyda’n preswylwyr

Yng Nghaerffili, mae ein preswylwyr yng Nghwrt St Catherine wedi bod yn meithrin cysylltiadau gyda’r plant yn eu hysgol gynradd gyfagos. 

Mae côr Ysgol Gynradd Twyn yn bwriadu cynnal cyngerdd Nadolig arall yn yr ysgol yn nes ymlaen eleni ar ôl i’r preswylwyr fwynhau clywed eu carolau Nadolig y llynedd. 

Er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, noddodd TWW furlun, sydd bellach wedi cael lle amlwg ar iard yr ysgol. 

Dywedodd Claire Ashby, Swyddog Datblygu Cymunedol:  “Roedd hi’n hyfryd gweld y gwaith gorffenedig.  Mae’r plant mor falch o’u hysgol ac maent wrth eu bodd yn dysgu yn yr awyr agored, lle y mae’r murlun. 

“Bydd yr ysgol yn gwahodd ein preswylwyr i’r ymarferion ar gyfer eu cyngerdd ysgol er mwyn parhau i feithrin cysylltiadau.” 

 

1
Swyddog Datblygu Cymunedol TWW, Claire Ashby, yn dathlu’r murlun newydd gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Twyn.
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.