Skip to content
Newyddion Preswylwyr 

Ardal allanol newydd ar gyfer hwb cymunedol

Mae gan ymwelwyr â hwb bwyd a phantri yn Sir y Fflint le newydd y tu allan i ddal i fyny dros baned o goffi. 

Mae ein contractwyr, sy’n adeiladu cartrefi newydd i ni yn Sir y Fflint, wedi bod yn helpu’r gymuned o gwmpas y datblygiad. 

Darparodd Grŵp Castlemead fyrddau picnic newydd yn Hwb Sandycroft, sy’n cael ei redeg o hen adeilad y sgowtiaid yn Stryd Watkin, Sandycroft.  Maent hefyd wedi rhoi bwyd i’r ganolfan. 

Rydym yn gweithio gyda Grŵp Castlemead i adeiladu wyth o gartrefi newydd ar hen safle’r New Inn yn Ffordd yr Orsaf,  Sandycroft. Disgwylir i’r datblygiad gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni. 

Sefydlwyd Hwb a Phantri Sandycroft gan Lesley Povey, preswylydd lleol, i gynnig rhywle i’r gymuned leol brynu bwyd yn rhad, gan bod y dewisiadau i siopa yn y pentref yn gyfyngedig a’r dewisiadau o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn brin. 

Bydd ymwelwyr yn talu £3 am unrhyw 15 eitem o’r hyb, sy’n cael 160 cilogram o fwyd yr wythnos gan FairShare a, hefyd, rhoddion gan archfarchnadoedd lleol.

Dywedodd Lesley: “Mae’r hyb wedi tyfu’n aruthrol ers i ni agor ym mis Hydref. Rydym yn agor tair gwaith yr wythnos ac fel arfer, bydd ciw o bobl yn aros i ddod mewn.

“Rydym yn llawer mwy na phantri bwyd yn unig. Mae pobl yn dod yma i gyfarfod a chymdeithasu. Bydd y byrddau newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr fel lle ychwanegol i bobl ddod i eistedd a sgwrsio y tu allan yn ystod yr haf.”

Yn y darlun: Lesley Povey o Hwb Sandycroft Hub gyda Joe O’Donnell o Castlemead.

1

Dywedodd Gary Cook, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru: “Rydw i wrth fy modd bod Castlemead wedi gallu cynorthwyo gwaith Hwb a Phantri Sandycroft.  Ein nod yw cynorthwyo’r gymuned leol lle bynnag y byddwn yn adeiladu cartrefi newydd, a mawr obeithiwn y bydd cyfraniadau Castlemead yn helpu’r hyb i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Sandycroft.”

Dywedodd Joe O’Donnell, Cyfarwyddwr Grŵp Castlemead: “Mae Grŵp Castlemead yn falch iawn bod Tai Wales & West wedi rhoi cyfle i ni gefnogi Hwb a Phantri Sandycroft ac rydym yn gobeithio y bydd ein cyfraniad o fyrddau picnic yn helpu gyda’r gwaith gwerth chweil y maent yn ei wneud yn y gymuned leol.

“Roeddem hefyd wrth ein bodd yn rhoi hamperi bwyd, a gasglwyd gan ein staff, ac mae pob un ohonynt yn dymuno llwyddiant parhaus i’r Hwb yn eu gwaith da.”

  • Mae Hwb a Phantri Sandycroft ar agor bob dydd Llun rhwng 12pm a 2.30pm;  bob dydd Mercher rhwng 11am a 1.30pm a bob dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yn Adeilad y Sgowtiaid, Stryd Watkin, Sandycroft, CH5 2PN. 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.