Skip to content
Datblygiadau Newydd

Gorllewin Cymru: Cartrefi newydd yn Abergwaun yn dod yn eu blaen yn dda

Mae’r gwaith wedi hen gychwyn i ddwyn 50 o gartrefi rhent cymdeithasol i Abergwaun.

Arferai’r cae ym Maesgwynne fod yn safle barics y fyddin yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

Mae ein contractwyr, Jones Brothers (Henllan) Ltd, yn sicrhau cynnydd da ar y safle ym Mharc Y Chwarel, ac maent wedi dechrau gosod fframiau pren ar gyfer y cartrefi.

Erbyn i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod yr haf 2026, bydd cymysgedd o fflatiau a byngalos 1 ystafell wely a thai 2, 3 a 4 o ystafelloedd gwely yn barod i breswylwyr symud i mewn iddynt.

 

Mae’n un o bedwar safle yr ydym yn gweithio arnynt yn Sir Benfro ar hyn o bryd, a fydd yn darparu 99 o gartrefi i bobl leol ar draws y sir.

Mae’r lleill yn Eglwyswrw, Dinas a hen safle Tafarn y Ship and Anchor yn Abergwaun.

Pan fyddant yn barod, caiff y cartrefi ym Mharc Y Chwarel eu neilltuo i breswylwyr sy’n cofrestru gyda Cartrefi Dewisedig Cyngor Sir Penfro.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, trowch at CartrefiDewisedig@SirBenfro

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.