Skip to content
Newyddion Preswylwyr

Newyddion o amgylch ein cynlluniau

Trevor Taclus!

Da iawn Trevor, sy’n arwain yr ymdrechion i lonni’r gerddi yn St Clements Court, Caerdydd.  Penderfynodd wirfoddoli trwy fynd ati i baentio’r gwelyau uwch yn y cynllun yn barod ar gyfer yr haf.

Erbyn hyn, mae wedi mynd gam ymhellach ac mae’n adnewyddu’r ffensys yn yr ardd.

Dywedodd Claire Ashby, Swyddog Datblygu Cymunedol “Mae Trevor wedi bod yn help aruthrol.  Mae wir yn falch o’r man lle y mae’n byw.”

1

Preswylwyr yn croesawu Uchel Siryf De Morgannwg

Piciodd Uchel Siryf De Morgannwg, Janey Howells, i mewn am fore coffi gyda phreswylwyr Oakmeadow Court, Caerdydd.

Fe’i gwahoddwyd gan un o’r preswylwyr mwy newydd, Parchedig David Kellen. Symudodd Parch Kellen i’r cynllun ar ôl ymddeol fel ficer Eglwys Llaneirwg, lle y bu’n gwasanaethu am 40 mlynedd.  Ar ôl ymddeol, gofynnodd yr Uchel Siryf iddo fod yn gaplan personol iddi.

Yn gyfnewid am hyn, estynnodd wahoddiad iddi ymweld â’r cynllun, lle y bu’r preswylwyr yn mwynhau bore coffi a chacennau, gan ddysgu am ddyletswyddau’r Uchel Siryf, sy’n cynnwys mynychu ymweliadau brenhinol yn y sir a chynorthwyo Barnwyr Uchel Lys Ei Fawrhydi.

1

Chwedlau Gwerin ym Mhrestatyn

Gwelwyd Beddgelert, dreigiau Cymreig a straeon am gyfeillgarwch a theulu yn dwyn dwy genhedlaeth ynghyd ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru.

Bu disgyblion o Ysgol Uwchradd Prestatyn a phreswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol Nant y Môr yn cynorthwyo ei gilydd dros gyfres o wythnosau i greu barddoniaeth a phrintiau dan arweiniad Stiwdios RAW-i, a Wendy Connelly a Robin Bailey, arlunwyr lleol.

Cynlluniwyd y prosiect, o’r enw Straeon Gwerin, er mwyn caniatáu i’r ddau grŵp brofi manteision creadigrwydd a’r broses greadigol.

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.