Pethau i’w gwneud yn ystod yr haf eleni
A ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gadw eich plant yn brysur yn ystod yr haf eleni, heb wario ffortiwn?
Dyma rai syniadau am bethau hwyliog i’w gwneud am ddim yn ystod y gwyliau.
Mynd allan i archwilio
A ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud gyda’r teulu? Mae ap Love Exploring yn rhoi grym darganfod yn eich dwylo chi trwy gynnig amrediad o lwybrau cwis a theithiau tywys yn eich ardal sy’n hwyl i’w gwneud ac sydd am ddim i’w defnyddio.
Lawrlwythwch ap ‘Love Exploring’ i chwarae am ddim. Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau, gallwch archwilio hanes a llwybrau natur y ddinas neu Saffari Dinosoriaid, Tylwyth Teg y Coed, Bwystfilod Bychain Realiti Estynedig a mwy!
Mae ar gael i’w ddefnyddio am ddim, ond mae’n defnyddio Realiti Estynedig felly efallai na fydd yn gweithio ar bob ffôn symudol.
Chwiliwch am ap Love Exploring lle’r ydych yn lawrlwytho eich apiau a throwch at y canllaw cydweddu.
Picnic yn y parc
Pan fo’r haul yn gwenu, beth allai fod yn well na phacio picnic a mynd am dro i’ch parc lleol.
Gallech hyd yn oed fentro ymhellach i ffwrdd. Mae nifer o barciau a gerddi hardd yng Nghaerdydd sy’n berffaith ar gyfer taith i’r teulu. Ceir Parc Bute y tu ôl i’r castell enwog, Gerddi Soffia yng nghanol y ddinas a Pharc y Rath sy’n cynnwys llyn ar gyfer cychod, elyrch, hwyaid a chaffi. Mae’n lle perffaith i fynd am dro, reidio beic neu ymlacio wrth ymyl y dŵr.
Ym Merthyr Tudful, mae Parc Cyfarthfa yn lle gwyrdd mawr sy’n berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu.
Yng Nghastellnewydd Emlyn, mae Caeau Chwarae Brenin George V yn adnodd gwych yn yr awyr agored i’r gymuned gyfan. Mae Parc Lota yn Abergwaun wedi cael llawer o offer chwarae newydd dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n golygu ei fod yn lle gwych i blant iau, a bydd plant hŷn yn mwynhau’r parc sglefrio ym Mharc Cymunedol Kronberg yn Aberystwyth. Yng Ngogledd Cymru gallwch fanteisio ar lwybrau cerdded gwych mewn mannau fel Parc Gwledig Loggerheads ger Yr Wyddgrug, a Greenfield Valley a Pharc Wepre yn Sir y Fflint. Mae Parc Eirias ym Mae Colwyn, Conwy, yn 50 erw o ran maint ac mae’n cynnwys mannau yn yr awyr agored a chyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do a thu allan.
Rhoi cynnig ar her ddarllen yr haf
Mae Her Ddarllen yr Haf yn annog plant i ddal ati i ddarllen yn ystod y gwyliau haf, fel eu bod yn barod am ddechrau gwych i’r tymor newydd. Mae’r her yn caniatáu i blant osod nod darllen a chasglu gwobrau am ddarllen unrhyw beth y maent yn ei fwynhau. Gall plant gofrestru yn eu llyfrgell leol neu ar-lein, ac mae modd cymryd rhan AM DDIM.
Cychwynnodd Her eleni ym mis Gorffennaf a’i enw yw Crefftwyr Campus, ac mae’n ymwneud â chreadigrwydd! O ddawns i dynnu llun, modelu sothach i gerddoriaeth, mae rhywbeth i bawb.
Mynd i’r traeth
Mae dros 50 o draethau yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau, a channoedd yn fwy o gwmpas yr arfordir. A wyddoch chi mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr cerdded o gwmpas ei harfordir, sef Llwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir o hyd, ac sy’n tywys cerddwyr heibio i sawl traeth.
Rhai o’r traethau gorau yn y de yw Porthcawl gyda’i siopau, ei gaffis a’i ffair ar y promenâd; Traeth Southerndown gyda’i glogwyni dramatig a’i byllau glan môr neu Draeth Ogwr am dwyni tywod i’w dringo a digon o le i redeg o gwmpas.
Yn y gorllewin, gallech ymweld â Mwnt gyda’i glogwyni dramatig a’i hen eglwys sy’n edrych allan dros y tywod euraidd neu Draeth Poppit, traeth tywodlyd llydan gyda thwyni y tu ôl iddo
Yng Ngogledd Cymru, mae Traeth y Gogledd Llandudno yn un o’r atyniadau niferus yn y dref glan môr, gan gynnwys ei bier a Phen y Gogarth. Ymhellach ar hyd yr arfordir, mae Ynys Llanddwyn yn un o uchafbwyntiau’r daith i Goedwig a Thraeth Niwbwrch ar Ynys Môn.
Treulio amser allan ym myd natur
Yng Nghymru, rydym wedi cael ein bendithio gyda chefn gwlad prydferth, sy’n golygu ei fod yn lle gwych i fynd allan ac archwilio.
Mae rhai mannau poblogaidd i ymweld â nhw yn cynnwys:
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas ger Aberystwyth. Mae’r traeth yn lle gwych i weld bywyd gwyllt fel adar, morloi a dolffiniaid. Mae digon o byllau glan môr i’w harchwilio hefyd pan fo’r llanw ar drai.
Gwarchodfa Natur Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r warchodfa natur hon yn lle gwych i’r teulu fynd am dro. Ceir llwybrau trwy goetiroedd a dolydd, a phwll lle y gallwch weld bywyd gwyllt.
Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth. Mae’n adnabyddus fel man bwydo barcudiaid cochion, mae’r ganolfan ymwelwyr yn lle gwych i ddysgu am hanes a bywyd gwyllt y goedwig. Ceir llwybrau cerdded o gwmpas y goedwig, ac mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys caffi a lle chwarae.
Mae gwefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cynnwys rhestr o Warchodfeydd Natur yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys nifer yn Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn rhestru nifer fawr o warchodfeydd natur, felly gallwch ddod o hyd i un yn eich ardal chi
Mynd am dro ar feic
Mae mynd allan ar feic yn ffordd arall hwyliog o archwilio. Os nad oes gennych chi feic, gallwch eu rhentu gan siop feiciau leol fel arfer. Yng Nghaerdydd, mae gan elusen Pedal Power amrediad o feiciau i’w llogi gan gynnwys beiciau wedi’u haddasu ac e-feiciau o’u safle ym Mhontcanna a Bae Caerdydd.
Diwrnod chwarae gwlyb
Pan fydd hi’n rhy wlyb i fynd y tu allan, dewch â’r hwyl i mewn i’ch ystafell fyw. Ewch ati i greu den neu gaer gyda’r plant gan ddefnyddio blancedi, gobennydd, cadeiriau neu unrhyw beth arall sydd gennych chi o gwmpas y tŷ. Neu gadewch i’ch plant ysgrifennu a pherfformio eu drama eu hunain. Gallant ddefnyddio gwisgoedd, propiau a beth bynnag arall y bydd ei angen arnynt er mwyn creu eu campwaith.
Gwirfoddoli gyda’r teulu
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn helpu i ddiogelu’r amgylchedd – a gallech chi gymryd rhan yn eu gwaith hefyd. Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys benthyca offer gan un o’u canolfannau casglu sbwriel er mwyn helpu i lanhau eich ardal leol neu ymuno â grŵp cymunedol yn eich ardal chi.