Skip to content
Cartrefi Newydd

Cartrefi newydd ar safle hen eglwys ym Mhencoed

Am dros ganrif, bu cyn Gapel y Drindod Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mhencoed yn noddfa grefyddol i bobl leol i addoli trwy gyfrwng y Saesneg. 

Bellach, mae Tai Wales & West wedi ailddatblygu’r safle a’i enw newydd yw Cwrt Trinity, gan ddarparu cartrefi diogel i bobl leol. 

Caeodd y capel yn 2017 ar ôl i’r niferoedd a oedd yn addoli yno ddisgyn.  Gweithiodd Tai Wales & West gyda Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, menter dan arweiniad Housing Justice Cymru, i brynu’r safle er mwyn datblygu tai fforddiadwy yno, yr oedd cryn angen amdanynt.  Yna, symudodd ein partneriaid adeiladu hirdymor, P+P Builders o Dorfaen, i mewn i ailddatblygu’r tir yn 12 o fflatiau un ystafell wely. 

Yn y tu blaen, mae hen gatiau’r capel a’r waliau terfyn wedi cael eu hadnewyddu a chadwyd dau o hen seddau’r capel i’r preswylwyr eistedd arnynt yn yr ardd gefn breifat. 

Dywedodd llefarydd ar ran Ffydd mewn Tai Fforddiadwy:  “Pan agorwyd Capel y Drindod ym 1907, nid oedd fawr iawn o gapeli Saesneg eu hiaith, ac am dros 100 mlynedd, bu’n lle addoli i gynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith.  Rydym yn falch o weld bod y safle yn parhau i gynorthwyo’r gymuned leol trwy ddarparu tai fforddiadwy.” 

Effeithiwyd ar ran fwyaf y preswylwyr a symudodd i Gwrt Trinity gan yr argyfwng tai presennol, a gyda phrinder cartrefi fforddiadwy, roedd nifer ohonynt yn byw mewn llety dros dro.  Roeddent ymhlith y cannoedd o bobl a oedd wedi cofrestru ar restr aros Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr am gartref fforddiadwy un ystafell wely. 

 

1
1

Bu Ian, sy’n dad i dri o blant, yn byw yn ystafell fwyta ei ferch am bedair blynedd 

Roedd Ian, a fu’n ymladd yn rhyfel Ynysoedd Falkland, wedi bod yn aros am flynyddoedd am gartref y gallai fforddio ei rentu ar ôl i’w briodas chwalu.  Roedd y tad i dri o blant yn byw gyda’i ferch a’i theulu yn eu hystafell fwyta a drawsnewidiwyd yn ystafell wely, ac roedd yn dymuno cael ei le ei hun yn fawr iawn.  

“Mae fy merch wedi bod yn graig i mi.  Aeth ati i drawsnewid ei hystafell fwyta yn ystafell wely i mi ac rydw i’n ddiolchgar iawn iddi, ond rydw i’n falch bod gennyf fy lle fy hun fel eu bod nhw yn gallu byw eu bywyd fel teulu nawr.” 

“Ceisiais chwilio am rywle, ond roedd yr holl fflatiau preifat yn llawer rhy ddrud i mi,” dywedodd Ian, nad yw’n gallu gweithio oherwydd cyfres o wahanol salwch. 

Cyn symud i mewn, helpwyd Ian gan ei Swyddog Cymorth Tenantiaeth i fanteisio ar grantiau i gael oergell a chwcer ar gyfer ei gegin newydd. 

“Roedd hynny wedi bod yn help mawr gyda’r costau symud i mewn.  Mae fy nyled yn fawr iddynt. 

“Bydd ansawdd fy mywyd yn gwella cymaint gyda fy fflat newydd.  Mae fy mab yn byw gerllaw a gallaf gerdded i’w dŷ ef i weld fy wyrion a’m hwyresau, a gallan nhw ymweld â mi.  Mae’n mynd i fod yn gymaint gwell i’m hiechyd meddwl. 

  

1
1
Symudodd Tawanda a Chris, sy’n ffrindiau, i’w cartrefi newydd ar ôl bod yn byw mewn llety Gwely a Brecwast dros dro.

Cychwyn o’r newydd i ffrindiau 

Cyfarfu Chris a Tawanda, sy’n gymdogion, pan oeddent yn byw drws nesaf i’w gilydd mewn llety dros dro ar ôl i’w perthynas gyda’u teulu fethu. 

Maent yn gobeithio y bydd eu cartrefi newydd yn Nghwrt Trinity yn cynnig cychwyn newydd iddynt. 

Mae Tawanda wedi cael help gan Emmaus De Cymru, elusen sy’n cynorthwyo pobl sy’n ddigartref, cyn symud i lety Gwely a Brecwast dros dro ym Mhorthcawl, lle y cyfarfu Chris. 

“Roeddwn ar fin bod mewn sefyllfa lle y byddwn yn byw ar y stryd gan nad oedd gennyf gefnogaeth teuluol, ond rydw i’n dymuno dangos y gallaf wella fy hun.  Am y tro cyntaf, mae gennyf swydd.  Rydw i wedi bod yn gweithio mewn archfarchnad am flwyddyn ac mae gennyf rywle i’w alw yn gartref bellach.  Rydw i’n dymuno profi i bobl y gallaf gyflawni rhywbeth mewn bywyd.” 

Roedd Chris wedi bod yn byw o un soffa i’r llall ac yn byw mewn sied ffrind pan symudodd i’r un lle Gwely a Brecwast â Tawanda chwe mis yn ôl. 

“Roeddwn ar fin cael fy anfon i’r carchar, ond llwyddais i ddod trwyddi.  Nid ydw i wedi cymryd sylweddau ers 12 mis.  Rydw i wedi cael swydd yn helpu i adeiladu’r orsaf bws newydd ym Mhorthcawl ac rydw i’n adfer fy mherthynas gyda fy nheulu. 

“Mae cymryd cyffuriau yn ddewis, nid yw bod yn ddigartref yn ddewis!  Rydw i wedi bod yn ddigartref am bedair blynedd ers yr oeddwn yn 18 oed, ond rydw i wedi dewis creu bywyd gwell i’m hun.  Bydd cael fflat newydd yn cynnig y cyfle i mi drawsnewid fy mywyd er gwell.” 

 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.