Gogledd Cymru: Mae dros 200 o gartrefi yn cael eu hadeiladu
Yng Ngogledd Cymru, mae’r gwaith adeiladu ar fin cael ei gwblhau ar ddau o’n datblygiadau yn Sir y Fflint.
Darparir wyth cartref ar hen safle New Inn, Sandycroft (yn y llun ar y dde/isod), a naw fflat yn Ffordd Brunswick, Bwcle. Bwriedir trosglwyddo’r rhain i breswylwyr erbyn y Gwanwyn 2025.
Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar ddau safle yng Nghonwy. Rydym yn adeiladu 54 o gartrefi rhent cymdeithasol ar gyfer pobl 55 oed ac yn hŷn yn Ffordd Bay View, lle y cychwynnodd ein partner adeiladu, Grŵp Castlemead, ar y safle yn ddiweddar.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo yn dda yn Llys Onnen yn Abergele (delwedd ar frig y dudalen). Caiff 43 o fflatiau eu hadeiladu ar safle hen gartref gofal.
Yn Wrecsam, mae gennym ddatblygiadau ar bedwar safle, a fydd yn darparu 100 o gartrefi rhent fforddiadwy y mae cryn angen amdanynt. Rydym yn adeiladu:
• 23 o gartrefi yn Nhir Coed, Gwersyllt
• 34 o gartrefi yn Llys Wrenbury, Cefn Mawr
• 43 o gartrefi ym Mharc Technoleg Wynnstay yn Rhiwabon
• 12 o fflatiau a llety byw â chymorth yn Eaton Drive, Wrecsam