Skip to content
Gwneud Gwahaniaeth

Dathlu gwaith gwych preswylwyr yng Nghymru

Bob blwyddyn, bydd preswylwyr o gymdeithasau tai ar draws Cymru yn dod ynghyd i rannu a dathlu’r gwaith da yn eu cymunedau.

Mae Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi sylw i rai o’r ffyrdd newydd ac arloesol y mae preswylwyr yn gweithio i gynorthwyo ei gilydd yn eu cymunedau.

Mae’r prosiectau hynny yn canolbwyntio ar gymorth lles, cynnal gweithgareddau cymunedol megis prosiectau amgylcheddol neu brosiectau garddio.  Mae gwobrau eraill yn cydnabod y ffyrdd y mae preswylwyr yn gweithio gyda’u landlordiaid i siapio gwasanaethau.

Mae grŵp o breswylwyr TWW sy’n perthyn i Grŵp Celf Blitz yng Nghwrt Sylvester, Wrecsam, wedi cyrraedd y rownd derfynol am y ffordd y maent yn helpu unigrwydd ac arwahanrwydd yn y gymuned yn ystod eu sesiynau celf wythnosol.  Daeth y grŵp yn ail yng nghategori Cymunedau yn Cynorthwyo Cymunedau yng Ngwobrau Arfer Da TPAS 2024. 

Cynhaliwyd y gwobrau eleni, a noddwyd gennym unwaith eto, ar 3 Gorffennaf yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd, yn dilyn Cynhadledd Creu Cymunedau Gwych.

Da iawn bawb a oedd wedi cymryd rhan! 

 

TPAS Gwobrau Arfer Da 2024

 

 

1
1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.