Skip to content
Diwrnod Ym Mywyd

Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystadau

“Un tro, gofynnwyd i mi ddal crwban a oedd wedi dianc o gartref preswylydd. ”

Mae Ceara Balzer yn Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystadau, sy’n gofalu am ein cartrefi ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Sir Benfro.

Beth ydych yn ei wneud yn eich swydd bresennol?

Rydw i’n cynnal arolygon o’n cartrefi, gan sicrhau eu bod mewn cyflwr da.  O hyn, gallaf drefnu unrhyw waith y bydd gofyn i Cambria, ein contractwyr cynnal a chadw tai mewnol, ei wneud.  Os bydd gofyn trefnu contractwr allanol i wneud unrhyw waith trwsio, byddaf yn cysylltu â nhw am y ffordd y byddaf yn dymuno i’r gwaith gael ei gyflawni a pha ddeunyddiau yr wyf yn dymuno iddynt gael eu defnyddio.  Rydw i hefyd yn cynnal arolygon eiddo er mwyn helpu i gasglu data technegol ar gyfer ein timau Darparu Rhaglen.  Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gwybod yn union ble, faint a pha gydrannau mawr y bydd angen eu disodli, h.y.  ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau.  Rydw i’n cynnal archwiliadau cynllun ar ein safleoedd hefyd.  Yr archwiliadau hyn yw fy nghyfle i edrych am bethau fel gorchuddion draeniau, rheiliau a gatiau sydd wedi torri, neu goed sy’n bargodi.

Os byddaf yn sylwi ar broblem, byddaf yn sôn wrth Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria neu ein contractwyr am y gwaith trwsio.  Pan fydd preswylydd yn adrodd am waith trwsio ac mae angen cynnal archwiliad, caiff ei drosglwyddo i mi a byddaf yn mynd allan i’w weld.  Yna, gallaf edrych i weld yr hyn y mae ei angen, ysgrifennu disgrifiad o’r gwaith a manyleb cyn trefnu bod Cambria yn ei drwsio.  Os yw’n fater brys fel gollyngiad mawr, byddaf yn ceisio ymweld ar yr un diwrnod, neu ar gyfer tasgau llai eraill, byddaf yn trefnu ymweld cyn gynted ag y gallaf.

 

Rhan arall bwysig o’m swydd yw cynnal archwiliadau diogelwch cyfreithiol o’r ardaloedd cymunol yn ein cynlluniau.  Er enghraifft, bob wythnos byddaf yn profi larymau tân a goleuadau argyfwng.  Byddaf hefyd yn fflysio dŵr cymunol er mwyn atal clefyd Legionnaires, yn ogystal â chynnal archwiliadau misol o dymheredd y dŵr yn y systemau hyn.  Byddaf hefyd yn cynnal Asesiadau Risg Tân yn ein blociau o fflatiau ac asesiadau risg tân sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer rhai o’n preswylwyr mwy agored i niwed.  Mae’r rhain yn agweddau pwysig iawn ar fy rôl gan eu bod yn sicrhau bod ein preswylwyr yn cael eu cadw’n ddiogel.

 

Ers pryd yr ydych chi wedi bod yn cyflawni eich rôl bresennol?  Pa swyddi eraill yr ydych chi wedi eu cyflawni yn WWH?

Rydw i wedi bod yn Swyddog Rheoli Asedau i Dai Wales & West er mis Tachwedd 2021.  Cyn hynny, roeddwn yn gweithio fel gweithiwr masnach amlsgiliau gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

 

Beth oeddech yn ei wneud cyn ymuno â WWH?

Rydw i wastad wedi ymddiddori mewn eiddo a chynnal a chadw gan bod nifer fawr o fy nheulu yn grefftwyr, yn ffenswyr ac yn beirianwyr.  Astudiais Peirianneg Mecanyddol ac Adeiladu yn y coleg ac ar ôl gadael yr ysgol, gweithiais fel Peiriannydd Morol am ychydig flynyddoedd, yna symudais ymlaen i fod yn adeiladwr hunangyflogedig ac yn nes ymlaen, ymunais â chwmni cartref gofal preifat fel swyddog cynnal a chadw.

Disgrifiwch ddiwrnod/wythnos nodweddiadol i chi

Byddaf yn dechrau ddydd Llun trwy gynllunio fy archwiliadau a’m harolygon ar gyfer yr wythnos i ddod, gan drefnu cyfarfod gyda chontractwyr a phreswylwyr sydd wedi adrodd am waith trwsio.

Fel arfer, byddaf yn mynd allan i gyfarfod preswylwyr a chynnal archwiliadau yn ystod y boreau.  Yna yn y prynhawn, byddaf yn cynnal archwiliadau diogelwch a chydymffurfiaeth y mae angen eu cynnal, cyn dychwelyd i’r swyddfa i drefnu gwaith trwsio a llenwi’r adroddiadau archwiliadau diogelwch a chydymffurfiaeth.  Y gwaith papur yw’r elfen yr wyf yn ei fwynhau leiaf, ond mae’n bwysig cadw preswylwyr yn ddiogel.

1
Sut mae’ch rôl wedi newid ers i chi ymuno â WWH?

Mae archwilio am leithder, llwydni a chyddwysiad wedi dod yn elfen fwy o’m swydd dros y blynyddoedd diwethaf.  Arferwn gynnal ambell un o’r rhain bob mis, ond bellach, rydw i’n cynnal dau neu dri y dydd.  Byddwn i’n dweud mai’r achos mwyaf cyffredin yn 80% o’r achosion yw awyru gwael ac rydw i wedi sylwi, wrth i brisiau ynni godi, bod pobl yn defnyddio llai o wres ac yn cadw eu ffenestri ar gau gan nad ydynt yn dymuno gadael y gwres allan.  Maent yn cau’r holltau awyru yn eu ffenestri hefyd.  Pan fyddwch yn selio’r holl ddrafftiau hynny, ni all y tŷ anadlu, ac mae hyn yn achosi cyddwysiad.  Yn yr achosion hynny, byddaf yn ceisio addysgu ein preswylwyr am y ffordd o sicrhau’r awyru gorau mewn eiddo heb aberthu’r holl wres hwnnw a sicrhawyd.

Rheswm cyffredin arall dros lwydni a chyddwysiad yw os bydd gweithwyr wedi bod yn gweithio yn yr atig a’u bod wedi symud y deunydd inswleiddio llofft, sy’n gadael mannau oer ar y nenfydau.  Ar ôl i chi ddisodli’r deunydd inswleiddio, bydd hyn yn datrys y broblem fel arfer.

Pa bethau yr ydych chi’n eu gwneud i helpu preswylwyr yn eich gwaith?

Helpu preswylwyr yw rhan fwyaf y swydd.  Rydw i wrth fy modd yn datrys problemau mewn eiddo, yn enwedig pan fyddant yn unigryw – ac mae’n deimlad boddhaus iawn pan allaf ddatrys problem gymhleth ar gyfer fy mhreswylwyr.  Rydw i’n adnabod nifer o’r preswylwyr yn fy ardal ac maen nhw yn fy adnabod i.  Pan fyddaf ar y safle yn cynnal archwiliadau diogelwch, bydd preswylwyr yn dod ataf ac yn gofyn i mi fwrw golwg ar broblemau yn eu cartrefi.  Byddant yn dweud pethau fel ‘nid yw fy ngolau yn gweithio’ ac yn aml, dim ond bylb newydd y bydd ei hangen arnynt, ond maent yn gwybod y gallant ofyn yn hytrach na chael anhawster gyda rhywbeth.

Beth yw’r peth mwyaf anarferol y gofynnwyd i chi ei wneud?

Un tro, gofynnwyd i mi ddal crwban a oedd wedi dianc o gartref preswylydd.  Nid oedd hon yn broblem eiddo mewn gwirionedd, ond roeddwn yn pasio felly roeddwn yn hapus i helpu.  Mae’n syndod pa mor gyflym y gall crwbanod symud!

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf yn eich swydd?

Mae fy holl waith yn ymwneud â helpu pobl.  Un diwrnod, helpais fenyw ifanc a oedd yn llefain.  Roedd hi wedi bod yn ddigartref ers amser hir ac roedd newydd symud i gartref newydd gyda’i baban.  Roedd angen iddi ddefnyddio’r peiriant golchi dillad er mwyn golchi dillad ei baban.  Nid ydym yn gosod peiriannau golchi dillad i breswylwyr, ond roedd hi wedi ypsetio gymaint felly penderfynais gynnig ei helpu.  Roedd hi mor ddiolchgar am yr help.  Roedd hyn wedi tynnu’r straen oddi ar ei hysgwyddau.

At ei gilydd, rydw i’n mwynhau cadw’r safleoedd i edrych yn hyfryd ac yn rhywle y mae ein preswylwyr yn teimlo’n falch i fyw.

 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.