Skip to content
Materion Ariannol

Arwyddion cam-drin ariannol a sut i’w hadnabod

Beth yw cam-drin ariannol?

A oes ffrind neu berthynas yn eich gorfodi i gael gafael ar arian neu fenthyciadau?

A oes rhywun yr ydych chi’n eu hadnabod wedi cynnig prynu siopa neu dalu biliau gan ddefnyddio eich arian chi, yna defnyddio’r arian at rywbeth arall?

A oes rhywun wedi cyfnewid sieciau neu bensiynau am arian heb sicrhau eich caniatâd chi?

Gallech fod yn ddioddefwr cam-drin ariannol.

 

Yn ôl sefydliad Helpwr Ariannol, mae cam-drin ariannol yn fath o gam-drin domestig sy’n ymwneud â rhywun arall yn rheoli eich gwariant neu’ch mynediad i arian, asedau a chyllid.

Gall cam-drin ariannol fod ar sawl ffurf ac mae’n gallu digwydd i unrhyw un o unrhyw oed.

Gall y sawl sy’n cam-drin fod yn bartneriaid, yn gyn bartneriaid, yn aelodau teuluol neu’n unigolion eraill fel gofalwyr.

Mae ystadegau gan elusen Surviving Economic Abuse (SEA) yn dangos bod 1 o bob 5 menyw yn y DU wedi profi cam-drin economaidd gan bartner presennol neu gyn bartner dros y 12 mis diwethaf.

Beth yw’r arwyddion i gadw golwg amdanynt?

Weithiau, gall gymryd amser hir i sylweddoli eich bod yn cael eich cam-drin yn ariannol neu i chi labelu’r hyn sy’n digwydd fel ‘cam-drin’. Mae gan Helpwr Ariannol restr o bethau sy’n gallu eich helpu i adnabod yr hyn sy’n digwydd.

Ble y gallwch droi am help a chyngor?

Ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 801 0800 neu trowch at Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall cymryd y camau cyntaf i dorri’n rhydd o gam-drin ariannol ymddangos yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Trowch at wefan Cymorth i Ferched Cymru

Mae gan Helpwr Ariannol fwy o gyngor ar gwefan Helpwr Ariannol

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.