Cadw’n ddiogel yn eich cymuned
Byddwn yn edrych ar sut y gallwch chi gael newyddion am droseddu yn eich ardal leol, a’r hyn y gallwch ei wneud er mwyn helpu i frwydro yn erbyn troseddau casineb.
Rhybuddion newyddion cymunedol
A wyddoch chi y gallwch chi gofrestru i gael rhybuddion am ddim am ddigwyddiadau ymgysylltu ac atal troseddu yn eich ardal a arweinir gan eich tîm plismona bro lleol?
Mae’r tri heddlu yng Nghymru yn cynnal gwasanaeth rhybuddion cymunedol sy’n caniatáu i chi gofrestru i gael negeseuon e-bost neu negeseuon testun am droseddu a phlismona cyffredinol yn eich ardal.
Maent hefyd yn gyfle i chi roi adborth i’r heddlu am y materion sydd bwysicaf i chi yn eich cymuned leol.
Bydd angen i chi ddarparu eich enw, eich cyfenw, eich cod post a chyfeiriad e-bost er mwyn cofrestru.
Cadw’n Ddiogel Cymru
Mae Cadw’n Ddiogel Cymru yn brosiect ar y cyd a gynlluniwyd i wneud pobl yn fwy ymwybodol o’u diogelwch personol, i’w hannog i adrodd am droseddau (yn enwedig troseddau casineb) ac i geisio help os bydd ei angen arnynt.
Mae’n brosiect rhwng Mencap Cymru a Heddlu De Cymru sy’n caniatáu i bobl sydd ag anabledd dysgu neu angen cyfathrebu neu iechyd meddwl rannu gwybodaeth am y ffordd y maent yn cyfathrebu â’r heddlu, yn ogystal â chael mynediad i linell ffôn benodedig os bydd angen iddynt gysylltu â nhw.
Pan fydd unigolyn yn cofrestru eu hanabledd gyda’r heddlu, rhoddir cerdyn Cadw’n Ddiogel Cymru iddyn nhw.
Os bydd angen cymorth ar ddeiliad y cerdyn, os byddant ar goll, os byddant yn dioddef trosedd neu os byddant mewn unrhyw sefyllfa sy’n golygu bod angen ychydig gymorth ychwanegol arnynt, gallant ddefnyddio’r cerdyn i fanteisio ar help.
Bydd y cerdyn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y ffordd y maent yn dymuno i bobl gyfathrebu â nhw, unrhyw faterion iechyd ac unrhyw gysylltiadau mewn argyfwng megis rhieni neu ofalwr.
Cynigir mynediad i bobl sy’n cofrestru am gerdyn Cadw’n Ddiogel Cymru i Linell Anabledd yr Heddlu, sef rhif ffôn penodedig, nad yw’n linell frys, y gall pobl sydd ag anabledd ei defnyddio i gysylltu â Heddlu De Cymru.