Canolfan Gymunedol Hightown yn dathlu 10 mlynedd o wasanaethu’r gymuned
Bu grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol yn dathlu effaith gadarnhaol canolfan gymunedol yn Wrecsam wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.
Agorwyd Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn 2014 ar Ffordd Bryn-y-Cabanau fel rhan o weithgarwch ailddatblygu ardal Hightown, a gwelwyd cartrefi newydd a chanolfan feddygol yn cael eu hadeiladu hefyd.
Mae Tai Wales & West yn berchen ar y ganolfan ac yn ei rhedeg, ac mae wedi sefydlu ei hun fel cyfleuster cymunedol bywiog, gan gynnal gweithgareddau sy’n amrywio o karate a dawnsio llinell i grwpiau rhieni a phlant bach a grwpiau crefft.
Mae hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau cost isel i’r gymuned leol trwy gydol y flwyddyn. Trefnir y rhain gyda chymorth grŵp a arweinir gan wirfoddolwyr, sef Cyfeillion Canolfan Gymunedol Hightown.
Mynychodd defnyddwyr rheolaidd y ganolfan ddigwyddiad i ddathlu 10fed Pen-blwydd y ganolfan, a oedd yn cynnwys perfformiad gan gôr Ysgol Bodhyfryd a chyflwyno gwobrau i wirfoddolwyr.
Cynhaliwyd cystadleuaeth dylunio plac, a dadorchuddiwyd yr ymgais fuddugol – a oedd yn canolbwyntio ar thema cymuned – yn ystod y diwrnod hefyd.
Lluniwyd plac o’r dyluniad gan ddefnyddio tuniau wedi’u huwchgylchu, a chaiff ei arddangos yn y ganolfan yn barhaol.
Dywedodd Annette Bryden, Rheolwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown: “Cawsom ddiwrnod hyfryd yn dathlu ac roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn bresennol. Rydym yn falch o bopeth a gyflawnwyd gan y ganolfan a’n holl wirfoddolwyr a chefnogwyr sy’n cydweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn rhai arbennig iawn.”
Dywedodd Gareth Jones, Cadeirydd Cyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown: “Mae deng mlynedd wedi hedfan heibio! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud y ganolfan yn gymaint o lwyddiant a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i nifer o fywydau.”
Gallwch gael gwybod mwy am weithgareddau yn y ganolfan trwy droi at Hightown Community Resource Centre Facebook page