Ed Pearson – Plas yr Ywen
“Mae unigrwydd yn beth ofnadwy, ond mae’r lle hwn yn help mawr. Mae gennych chi ffrindiau yma.”
Ar ôl colli ei wraig, aeth Ed Pearson ati i geisio sicrhau dyfodol diogel i’n hun, gan gychwyn ar daith a arweiniodd at fywyd newydd mewn cynllun gofal ychwanegol.
Roedd Ed, sy’n 90 oed, yn mwynhau ymddeoliad delfrydol yn Greenfield Valley, Sir y Fflint, gyda’i wraig Claire, pan ddechreuodd ei hiechyd waethygu.
Trist nodi y bu farw Claire ac roedd Ed yn byw ar ei ben ei hun pan ymwelodd â chynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen yn Nhreffynnon am y tro cyntaf.
“Roedd fy merch wedi dod â mi yma ac edrychom o gwmpas – ac roedd yn cynnig popeth yr oeddwn yn ei ddymuno,” dywedodd Ed.
“Wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn ofni bod ar eich pen eich hun, ac mae’n ofn gwirioneddol. Mae unigrwydd yn beth ofnadwy ac mae hyn yn datrys y broblem.
“Mae’r lle hwn yn help mawr. Mae’n ddelfrydol, mae gennych chi ffrindiau yma, pobl y gallwch chi siarad â nhw unrhyw bryd yr ydych yn dymuno.”
Er hyn, mae Ed yn dweud mai ei ffrind gorau yw ei fleiddgi Enya, a symudodd i Blas yr Ywen gydag ef.
Mae hi’n cadw cwmni i Ed ac yn ei gadw yn brysur, wrth iddo fanteisio ar lwybr coetir y cynllun, lle y mae’n ei cherdded hi bedair gwaith y dydd.
Roedd gallu byw gydag anifail anwes ar frig rhestr blaenoriaethau Ed pan symudodd i Blas yr Ywen, gan ei fod wedi cadw Blaiddgwn trwy gydol ei oes.
Dywedodd: “Pan ymunais â’r awyrlu ar ôl i mi adael yr ysgol, gofynnom i mi beth yr oeddwn yn dymuno ei wneud, a dywedais wrthynt yr hoffwn fod yn swyddog trin cŵn. Daeth cyfle i weithio fel swyddog trin cŵn ac roeddwn wrth fy modd. Gwaith gyda’r hwyr oedd hwn ar y cyfan, ond roeddwn wrth fy modd.
“Priodais Claire pan adawais y lluoedd a chawsom fywyd da – bywyd da iawn,” ychwanegodd Ed, a oedd wedi mwynhau gyrfa ym myd gwerthu ar ôl gadael y Lluoedd er mwyn magu ei fab a’i ferch gyda Claire.
“Roedd ein tŷ olaf gyda’n gilydd yn edrych allan dros y llyn yn Greenfield Valley, sy’n ddarn prydferth o fyd natur. Buom yn byw yno gyda’n dau Fleiddgi. Roedd hi’n nefoedd ar y ddaear i mi yno.
“Felly pan ddechreuais feddwl am symud yma, dywedais bod yn rhaid bod lle i’r ci. Os na fydd lle i’r ci, ni fyddaf yn dod, a dyna sut fu hi. Pa bynnag ffrindiau sydd gennyf yma, Enya yw fy ffrind gorau. Hebddi hi, byddai’n drychineb llwyr arnaf.”