Skip to content
Datblygiadau Newydd

Rydym yn adeiladu 50 o gartrefi newydd ym Mro Morgannwg

Rydym yn gweithio ar dri datblygiad tai newydd yn Ne Cymru ar hyn o bryd. 

Yn Silstwn, mae’r gwaith ar fin cael ei gwblhau ar 18 o dai a fflatiau newydd, a fydd yn barod i groesawu preswylwyr newydd yn yr hydref. 

Mae prinder cartrefi rhent fforddiadwy ym mhentref arfordirol bychan Y Wig, sydd rhwng Llanilltud Fawr a Saint-y-brid. 

Ym mis Mehefin, cychwynnodd ein contractwyr, P+P Builders, ar y gwaith o adeiladu 17 o gartrefi newydd mewn cae ar gyrion y pentref.  Mae’r cartrefi yn Ffordd St Brides gerllaw Arfordir Treftadaeth prydferth Morgannwg. 

Mae’r datblygiad yn cynnwys cartrefi 2 a 3 ystafell wely, fflatiau 1 ystafell wely a byngalo. 

Rydym yn gobeithio y bydd y cartrefi yn barod i groesawu preswylwyr newydd yn ystod yr haf flwyddyn nesaf. 

Mae P+P Builders wedi cychwyn ar y gwaith ar 17 cartref pellach hefyd yn Y Rhws, sy’n edrych allan dros yr arfordir yn Heol Y Pentir. 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.