Ffyrdd o ailgylchu yn yr ardd
Mae’n siŵr mai’r haf yw’r cyfnod mwyaf cyffrous i arddwyr, pan fo’r ffrwythau yn barod i’w tynnu a phan fo’r ardd yn ei blodau.
Mae gan ein garddwyr yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd y cyngor hwn er mwyn sicrhau gardd syfrdanol dros yr haf na fydd yn costio’n ddrud.
Yn ystod misoedd sych yr haf, mae’n bwysig rhoi dŵr i’ch planhigion. Ailgylchwch boteli plastig gwag gan greu “glôb” hunan-ddyfrio ar gyfer potiau mawr neu welyau uwch. I wneud hyn, gwnewch rai tyllau yng ngwaelod potel 500ml neu 1 litr. Plannwch y botel yn y gwely neu’r pot, cyn ei llenwi â dŵr a rhoi’r caead yn ôl arni. Bydd y dŵr yn draenio trwy’r tyllau yn araf er mwyn cadw’r pridd yn llaith. Dylech sicrhau eich bod yn ei llenwi â dŵr yn rheolaidd.
Gellir troi poteli plastig 5 litr mwy o faint yn ddysglau plannu. Sicrhewch eich bod yn ychwanegu tyllau yn y gwaelod er mwyn draenio dŵr. Maent yn dda er mwyn tyfu moron neu ddail letys “dod a dod eto”. Gall bwcedi a hen esgidiau glaw wneud dysglau plannu lliwgar a hynod hefyd.
Gall hen gaeadau poteli, yn enwedig y rhai mwy o faint, wneud labeli ar gyfer eich planhigion. Neu gallech ddefnyddio ffyn lolipop neu gerrig wedi’u paentio.
Rheoli plâu
Pryfed duon a phryfed gwynion yw gelyn y garddwr yn ystod yr haf. Gwnewch eich chwistrell ecogyfeillgar eich hun i gael gwared arnynt. Rhowch 500ml o ddŵr mewn jwg a thua llwy bwrdd o hylif golchi llestri. Mae Ecover yn ddrytach na hylifau eraill, ond mae’n seiliedig ar blanhigion, felly ni fydd yn ychwanegu cemegau i’ch gardd, a bydd un potel yn para am amser hir.
Rhowch y gymysgedd mewn potel chwistrellu. Yna, gallwch ailgylchu poteli chwistrellu gwag deunydd glanhau cegin neu ystafell ymolchi, ond cofiwch sicrhau eich bod yn eu glanhau’n drylwyr.
Rhowch stop ar y gwlithod trwy wasgaru plisg wyau wedi’u malu o gwmpas eich planhigion. Os oes gennych chi dân glo neu losgwr boncyffion, mae lludw o’r tân yn gwneud yr un gwaith.
Gwrteithiau naturiol
Mae plisg wyau wedi’i falu yn darparu bwyd i’r planhigion, yn ogystal ag atal gwlithod.
Mae gwaddodion coffi yn wrtaith naturiol ar gyfer planhigion sy’n hoff o asid fel llus America. Gallwch eu cael gan eich siop goffi leol weithiau. Cofiwch, gall y caffein mewn coffi fod yn wenwynig i gŵn.
Mae planhigion sy’n tyfu gyda’i gilydd yn ffynnu’n well
Mae plannu cefnogol yn derm cyffredin ym maes garddio, ond beth mae’n ei olygu?
Mae’n ffordd organig o gynnal cydbwysedd naturiol trwy dyfu planhigion gyda’i gilydd sy’n gallu rheoli plâu, atal clefydau a chynorthwyo gweithgarwch peillio, trwy ddilyn cyfuniadau penodol. Mae gan nifer o’r planhigion cefnogol arogl cryf ac maent yn gallu drysu plâu, ac mae eraill yn denu pryfed buddiol, fel buchod coch cwta, sy’n bwyta pryfed gleision a phryfed duon.
Dyma rai o’r cyfuniadau cyffredin
- Basil – ffa, bresych a thomatos
- Camomeil – ciwcymbr
- Gwewyrllys – bresych, letys
- Balm lemon – tomato
- Mint – bresych
- Oregano – bresych, ciwcymbr
- Persli neu sifys – moron, tomato
- Rhosmari – ffa, bresych, moron
- Saets – bresych, moron, mefus
- Teim – bresych
- Gold Ffrainc – tomato