Gallai pobl hŷn fod yn colli allan ar filiynau
Ni chaiff miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau’r Llywodraeth eu hawlio gan bobl hŷn yng Nghymru bob blwyddyn, gan nad ydynt efallai yn sylweddoli’r hyn y maent yn gymwys i’w gael.
Mae ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl hŷn nad ydynt yn sylweddoli bod arian ychwanegol ar gael, y gallent fod yn ei hawlio.
Mae elusen Age Cymru wedi annog pobl hŷn a’u gofalwyr i edrych pa fudd-daliadau a hawliau y gallent eu hawlio, wrth i filiynau fethu cael eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.
Lwfans Gweini, Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) a’r Credyd Pensiwn yw’r budd-daliadau mwyaf arferol na fydd pobl yn eu hawlio.
“Nid oes nifer fawr o breswylwyr hŷn yn sylweddoli bod help ariannol ar gael iddynt,” dywedodd Helen Edwards, TSO.
“Mae nifer wedi gweithio trwy gydol eu bywyd heb hawlio unrhyw fudd-daliadau, neu efallai bod ganddynt botiau bychain o gynilion, felly nid ydynt yn credu bod budd-daliadau ar gael iddynt. Nid yw eraill yn hoffi gofyn am help. Maent yn rhy falch.
“Ymwelais ag un o’n cynlluniau ymddeol y llynedd, gan gynnal archwiliad budd-daliadau gyda phawb a oedd yn byw yno, a darganfyddais bod bron i bawb yno yn gymwys i gael ychydig help ychwanegol. Felly euthum ati i’w helpu gyda’u ceisiadau.
“Gweithiais gydag ychydig breswylwyr yn ddiweddar a oedd yn ei chael hi’n anodd iawn cael deupen llinyn ynghyd. Pan edrychais ar eu hamgylchiadau, roeddent yn talu eu rhent o’u cynlluniau pensiwn preifat bychain, pan allent fod yn hawlio Budd-dal Tai.
“Roeddent wastad wedi gweithio’n galed ac nid oeddent yn ymwybodol o’r ffaith y gallent hawlio help.”
“Mewn un achos, llwyddais i sicrhau ad-daliad Budd-dal Tai o £1,200 i breswylydd, a fu’n help mawr iddynt.”
Gallech chi fod yn colli allan ar...
Gall y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) helpu i dalu costau byw ychwanegol os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl neu gyflwr corfforol hirdymor neu anabledd, sy’n golygu eich bod yn ei chael hi’n anodd cyflawni tasgau bob dydd penodol neu fynd o gwmpas oherwydd eich cyflwr.
Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych chi’n gweithio, os oes gennych chi gynilion neu os ydych chi’n cael rhan fwyaf y budd-daliadau eraill. Mae dwy rhan iddo – byw dyddiol er mwyn helpu gyda thasgau bob dydd a symudedd er mwyn eich helpu i fynd o le i le.
Hwn yw un o’r potiau cymorth mwyaf nad yw’n cael ei hawlio. Gellir hawlio hwn os ydych chi’n 66 oed neu’n hŷn ac mae gennych chi anabledd mor ddifrifol fel bod angen rhywun arnoch i’ch helpu i fyw bywyd annibynnol yn eich cartref.
Gallech gael £72.65 neu £108.55 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol, gan ddibynnu ar eich anabledd.
Os ydych chi’n cael Lwfans Gweini, gallech fod yn cael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad i’r Dreth Gyngor hefyd.
Mae’r Credyd Pensiwn ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth. Mae’n cynnig arian ychwanegol i helpu gyda chostau byw a gall helpu gyda chostau tai hefyd. Efallai y byddwch yn cael help ychwanegol os ydych chi’n ofalwr, os oes gennych chi anabledd difrifol neu os ydych chi’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Gallwch ei gael hyd yn oed os oes gennych chi bensiwn preifat bach neu gynilion neu os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun.
Hyd yn oed os ydych chi’n cael ychydig bunnoedd o Gredyd Pensiwn, mae’n agor y drws i help arall, megis Budd-dal Tai, Taliadau Costau Byw, gostyngiadau Treth Gyngor, trwydded deledu am ddim os ydych chi’n 75 oed neu’n hŷn, help gyda thriniaeth ddeintyddol GIG, sbectolau a thrafnidiaeth i apwyntiadau ysbyty, a help gyda’ch costau gwresogi trwy gyfrwng Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. I fod yn gymwys i dderbyn y taliad unigol o £150 ychwanegol mae angen eich bod yn cael budd prawf Credyd Pensiwn.
“Mae pob achos yn wahanol,” dywedodd Helen. “Fel Swyddog Cymorth Tenantiaeth, rydym yno i helpu pobl. Rydym yn dymuno i breswylwyr hŷn wybod y gallant ein ffonio unrhyw adeg. Rydym yma iddyn nhw ac os allwn helpu, byddwn yn gwneud hynny.”
Swyddog Cymorth Tenantiaeth, Helen Edwards
Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn cael budd-daliadau ariannol, cysylltwch â’r Swyddog Tai neu’r Swyddog Cymorth Tenantiaeth ar gyfer eich ardal.