Skip to content
Datblygiadau Newydd

Cynllun Gofal Ychwanegol Penarth

Mae’r gwaith wedi cychwyn ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf, datblygiad o 70 o fflatiau fforddiadwy, hunangynhwysol ym Mhenarth, Bro Morgannwg.

Mae’r cynllun gwerth £20miliwn yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close yn y dref glan môr.

Bydd preswylwyr yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned ofalgar, gefnogol a byddant yn gallu manteisio ar ofal a chymorth wedi’i deilwra ar y safle.

Mae TWW wedi llofnodi les hirdymor ar y tir wrth y Cyngor, gan baratoi’r ffordd ar gyfer y cam datblygu nesaf.

🏗️ Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau gan y contractwr o Gymru, JG Hale Group

⏱️ Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2026

💷 Mae’r fflatiau a fydd yn defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon wedi cael eu dylunio i gynnwys lefelau inswleiddio uchel, a fydd yn helpu i gadw’r biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr

🏢 Wedi’i adeiladu dros dri llawr, bydd gan bob fflat balconïau

1

Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys:

🍽️ Bwyty ar y safle

🛋️ Safleoedd lolfa

🧺 Cyfleusterau golchdy

🏡 Mynediad i gwrt canolog a gardd dementia-gyfeillgar i breswylwyr 

Gosodir paneli solar ar yr adeilad er mwyn cynhyrchu pŵer ar gyfer yr ardaloedd cymunol a lleihau’r ôl troed carbon.

Caiff ei adeiladu wrth ymyl Cwrt Oak, ein cynllun i bobl hŷn sy’n bodoli eisoes, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy’n deall dementia a gaiff ei redeg gan y Cyngor.

1

Penarth fydd ein chweched cynllun gofal ychwanegol a’n cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru.

Agorwyd ein un cyntaf yn 2011 ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru.

2011
Nant-y-Môr
Prestatyn
2013
Llys Jasmine
Yr Wyddgrug
2017
Llys Glan-yr-Afon
Y Drenewydd
2021
Plas yr Ywen
Treffynnon
2021
Maes y Môr
Aberystwyth
2026
I'w gwblhau
Penarth
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.