Skip to content
Straeon O Fywyd Go Iawn

Gwaith caled yw cyfrinach Joyce, sy’n 100 oed

Bywyd prysur, gwaith caled a dros y blynyddoedd diwethaf, mynd i’r gwely yn gynharach, yw rhai o’r pethau sydd wedi ei helpu i fyw nes ei bod yn 100 oed, sy’n oedran arbennig. 

1

Bu’n dathlu ei phen-blwydd mawr gydag 14 o aelodau ei theulu, a dilynwyd hyn gan barti gyda phreswylwyr cynllun gofal ychwanegol Nant-y-Môr, lle y mae’n byw, ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru.  

Mae Joyce yn cadw’n brysur trwy wneud posau, croeseiriau a gwau – a llwyddodd i fynd ar wyliau byr i Dde Cymru dros y Pasg. 

“Rydw i wastad wedi mwynhau gwneud pethau, arferwn wneud cryn dipyn o ddawnsio pan oeddwn yn iau, ac rydw i wedi teithio gryn dipyn,” dywedodd Joyce. 

“Pan symudais i Nant-y-Môr pan oeddwn yn fy 80au, arferwn fynd ar wyliau bob tua chwe wythnos.  Ni allaf fynd allan gymaint nawr, ac rydw i’n dechrau ei chael hi’n anodd gwau.  Ond rydw i’n benderfynol o aros mor annibynnol ag y gallaf.  Rydw i’n cael cymorth gwych yma gan y staff gofal.” 

1
1

Symudodd Joyce i Ogledd Cymru pan oedd yn 10 oed, lle’r arferai ei rhieni redeg siop groser a llaethdy yn Llandrillo-yn-Rhos.

Setlodd yn Neganwy yn ddiweddarach, lle y bu’n byw am 30 mlynedd, yna i Brestatyn cyn symud i Nant y Môr yn 2011 yn dilyn marwolaeth ei gŵr Robert a’i llysfab, Andrew. 

“Dros y blynyddoedd, rydw i wedi treulio llawer o amser ar fy mhen fy hun, felly rydw i’n hapus yn gwneud posau neu’n darllen llyfr. 

“Roeddwn yn unig blentyn ac nid oedd wastad nifer fawr o bobl i chwarae gyda nhw, felly credaf mai hwn yw’r rheswm pam nad wyf wedi teimlo’n unig wrth i mi fynd yn hŷn.” 

Mae Joyce yn byw bywyd annibynnol yn ei fflat ei hun o hyd yn Nant y Môr, ac mae’n gallu manteisio ar ofal a chymorth pan fydd ei angen arni. 

“Rydw i wedi bod yn Nant y Môr ers iddo agor ac mae’n lle gwych yn fy marn i.  Nid oeddwn yn siŵr am y lle pan symudais yma gyntaf, arferwn fyw ar ochr arall y bont ac roeddwn yn credu ei fod yn rhy bell i ffwrdd.  Ond mae’n cynnig popeth y mae ei angen arnaf.  Mae’n teimlo’n ddiogel ac maent yn gofalu amdanaf yn dda.  Mae gennyf ofalwyr i ofalu amdanaf os bydd angen i mi gael help i gael cinio, neu os na fyddaf yn teimlo’n ddigon hwylus, byddant yn dod â chinio i’m hystafell.” 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.