Gwasanaethau i bobl sydd ag MND, Parkinsons, Arthritis a Pharlys yr Ymennydd
Mae staff Grŵp Tai Wales & West wedi dewis codi arian ar gyfer pedair elusen iechyd dros y ddwy flynedd nesaf.
Yr elusennau hynny yw Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MND Association), Cerebral Palsy Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.
Dyma rai o’r ffyrdd y mae’r elusennau yn helpu pobl ar draws Cymru a ffyrdd y gallwch chi helpu gyda’r ymdrechion codi arian.
Cymdeithas MND yw’r brif elusen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n canolbwyntio ar wella mynediad i ofal, ymchwil ac ymgyrchu i’r rhai sy’n byw gyda neu sy’n cael eu heffeithio gan MND.
Mae clefyd niwronau motor (MND) yn gyflwr niwrolegol angheuol ac sy’n datblygu’n gyflym, ac mae’n effeithio ar dros 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw adeg. Mae’r clefyd yn peri i negeseuon o nerfau (niwronau motor) yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn sy’n rheoli symud i stopio cyrraedd y cyhyrau yn raddol, gan beri iddynt wanhau, stiffhau a nychu.
Stori Tom
Cafodd Tom Jenkins o Gaergybi, sy’n dad i chwech o blant, ddiagnosis clefyd niwronau motor (MND) ym mis Mehefin 2021. Mae Cymdeithas MND wedi cynorthwyo ef a’i deulu gyda’u heulfan newydd.
Dywedodd: “Talodd Cymdeithas MND am rai llenni sy’n cadw’r gwres i mewn ac sy’n cau’r byd allan er mwyn cael ychydig breifatrwydd.
“Ni allem fod wedi gwneud hynny heb gymorth y Gymdeithas, felly rydw i’n teimlo’n freintiedig fy mod wedi cael yr help hwnnw. Mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr.
“Mae hyn yn ychwanegol i gael y cymorth emosiynol a gwybod bod rhywun allan yno sy’n gallu help a chynnig clust i wrando yn ôl yr angen.”
Yng Nghymru, mae gan Gymdeithas MND chwe grŵp a changen sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn llwyr. Trwy gyfrwng amrediad eu harbenigedd, maent yn helpu i gydlynu a threfnu digwyddiadau codi arian – gan gynnwys Bay2Bay4MND. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth a chymorth ariannol i bobl sydd ag MND, eu gofalwyr a’u teulu.
Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r Gymdeithas yn cynnig cymorth i oddeutu 3,500 o bobl trwy ein Rhwydwaith Canolfan Ymchwil a Gofal MND, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â GIG. Rydym yn ariannu gwerth tua £2 filiwn ar ffurf grantiau ariannol bob blwyddyn, ac roedd dros 2600 o bobl sy’n cael eu heffeithio gan MND wedi cael budd o’r gwasanaeth y llynedd, ac rydym yn falch o gyflawni rôl arweiniol yn y frwydr fyd-eang yn erbyn MND trwy ariannu gwaith ymchwil arloesol am y clefyd a hwyluso cydweithio pwysig rhwng ymchwilwyr MND.
Gallwch darganfod fwy am CMN a’r cymorth sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd ar wefan Cymdeithas MND.
Mae Parkinson’s UK Cymru yn cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson, cyflwr niwrolegol dirywiol. Clefyd Parkinson yw’r cyflwr niwrolegol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae’n effeithio ar tua 8,300 o bobl ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Mae prif symptomau clefyd Parkinson yn cynnwys crynu anrheoledig (a elwir cryndod fel arall), symudiadau sy’n fwy araf nag arfer a stiffrwydd yn y cyhyrau. Ond mae ymchwil wedi nodi dros 40 o wahanol symptomau, gan gynnwys problemau cysgu a gyda’r cof, a phroblemau iechyd meddwl. Bydd symptomau clefyd Parkinson yn wahanol i bawb. Mae’n bwysig cofio na fydd pawb yn profi pob un ohonynt.
Mae’r drefn y gall symptomau ymddangos a’r ffordd y maent yn datblygu yn amrywio o un person i’r llall. Mae Parkinson’s UK Cymru yn cynnal llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy’n darparu gwybodaeth a chymorth ac mae ar gael i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan glefyd Parkinson, ar 0808 800 0303.
Ar draws Cymru, pobl sydd â chlefyd Parkinson, gwyddonwyr a chefnogwyr, swyddogion codi arian a theuluoedd, gofalwyr a chlinigwyr, oll yn cydweithio. Mae pobl sy’n codi arian yn gyrru popeth y mae’r elusen yn ei wneud, o gynorthwyo pobl sydd â chlefyd Parkinson a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw, i waith ymchwil arloesol ynghylch triniaethau newydd. Trwy ariannu’r gwaith ymchwil cywir am y triniaethau mwyaf addawol, byddwn yn agosáu at wellhad bob dydd. Tan hynny, rydym ni yma ar gyfer unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan Glefyd Parkinson.
Mae Cerebral Palsy Cymru yn elusen genedlaethol ac yn ganolfan ragoriaeth sy’n darparu therapi a chymorth arbenigol i blant a theuluoedd ar draws Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd.
Parlys yr ymennydd yw’r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith plant ar draws y byd, ac amcangyfrifir y bydd baban yn cael ei eni gyda’r cyflwr bob pum niwrnod yng Nghymru.
Mae gwasanaeth ymyrraeth gynnar arbenigol Cerebral Palsy Cymru, ‘Cychwyn Gwell, Dyfodol Gwell’, yn cynnig therapi a chymorth i fabanod yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd neu y mae risg uchel bod ganddynt barlys yr ymennydd. Y llynedd, darparont 1,121 o sesiynau therapi i 301 o blant ar draws Cymru.
Mae angen i’r elusen godi tua £2 filiwn bob blwyddyn er mwyn parhau i ddarparu lefel y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd. Ar gyfartaledd, daw 80% o’r cyfanswm hwnnw ar ffurf rhoddion, rhoddion mewn ewyllysiau, partneriaethau arbennig fel yr un gyda Thai Wales & West ac incwm a geir trwy werthu eitemau ail law yn eu pedair siop elusennol.
Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad enfawr i’r elusen. Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth trwy godi arian neu wirfoddoli, cysylltwch â
Mae Cymru Versus Arthritis yn dweud bod 970,000 o bobl yn byw gydag arthritis neu gyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru – mae hyn yn golygu bod un rhan o dair o’r boblogaeth yn byw gyda’r boen, y blinder a’r anabledd y gall ei achosi.
Mae Cymru Versus Arthritis yn sicrhau bod pobl sydd ag arthritis yng Nghymru yn cael y cymorth a’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i fyw’n dda gyda’u cyflwr. Mae hefyd yn sicrhau bod anghenion pobl sydd arthritis yn flaenoriaeth ym meddwl llunwyr polisi yng Nghymru.
Un o’r gwasanaethau cymorth hynny yw gwasanaeth CWTCH (Gall Cymunedau sy’n Cydweithio Helpu) a Byw’n Dda, sy’n gweithio gyda phobl sydd ag arthritis, grwpiau cymunedol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Mae’n cynnig cymorth ar draws pedwar maes allweddol:
- rheoli poen
- hunanreoli
- gweithgarwch corfforol
- gwneud penderfyniadau ar y cyd
Mae’r gwasanaethau hyn yn agored i unrhyw un y mae angen iddynt eu cael. Os hoffech chi neu rywun yr ydych chi’n eu hadnabod chwilio am gymorth Cymru Versus Arthritis yn eich ardal, trowch at www.versusarthritis.org/in-your-area/wales/
Stori gwirfoddolwr
Mae gwirfoddolwyr yn cyflawni rôl hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau ar draws Cymru, codi arian a chodi ymwybyddiaeth o arthritis.
Ar ôl cael ei diagnosis, gwelodd Mary bod y cymorth yr oedd Versus Arthritis yn ei gynnig yn cael effaith sylweddol ar ansawdd ei bywyd. Bu hyn yn hynod werthfawr iddi ac roedd hi’n dymuno mynd ati i helpu eraill trwy gyfrwng Prosiect CWTCH.
Bellach, mae Mary yn gwirfoddoli gyda’r prosiect, gan gynorthwyo’r grŵp i gynllunio gweithgareddau mewn sesiynau yn y dyfodol sydd wedi cynnwys cymorth sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod a chrefftau.
“Roeddwn i’n berson ifanc gydag arthritis a dywedwyd wrthyf mai’r unig bobl a oedd yn cael arthritis oedd pobl yn eu 80au. Teimlais yn unig iawn gydag ef am gyfnod hir, ac roeddwn yn hoffi’r syniad o fod yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd i rywun arall sy’n mynd trwy’r un peth. Diolch i’r elusen hon, llwyddais i gael rhyw fath o fywyd, felly roeddwn yn dymuno rhoi’r help hwnnw yn ôl.”
Os hoffech gymryd rhan trwy wirfoddoli, cysylltwch â Swyddfa Cymru i gael gwybod mwy trwy ffonio 0800 756 3970