Gwella ein gwasanaethau
Dywedom:
Yn ein Strategaeth Cynnwys Preswylwyr, dywedom y byddem yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan ac yn ein cylchgrawn In Touch am y gwaith yr ydym yn rhoi blaenoriaeth iddo. Ein blaenoriaethau busnes yw ein henw am y rhain, lle’r ydym yn ceisio gwneud gwelliannau ar draws holl feysydd y busnes gan barhau i redeg ein gwasanaethau dydd-i-ddydd.
Gwnaethom
Dyma ychydig adborth am y gwaith gwella a amlygom yn ystod rhifyn y Gaeaf 2023 o In Touch.
Gwasanaethu nwy yn ‘arddull MOT’
Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn cyflawni gweithgarwch gwasanaethu nwy yn unol â rheoliadau newydd sy’n caniatáu i chi wasanaethu mewn arddull MOT. Gall y cyfleuster nwy yn eich cartref gael ei wasanaethu unrhyw bryd yn ystod y ddau fis cyn y bydd eich tystysgrif gyfredol yn dod i ben. Er enghraifft, os yw eich tystysgrif yn dod i ben ar 30 Medi, gallech gael yr archwiliad blynyddol ar 30 Gorffennaf, a 30 Medi fyddai’r dyddiad adnewyddu o hyd. Mae hyn yn golygu na fydd angen i ni fod yn eich cartref fwy nag y bydd angen i ni fod yno, a bydd eich eiddo yn parhau i fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Proses gwyno newydd
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’n polisi cwynion a’r ffordd yr ydym yn delio â chwynion. Rydym wedi hyfforddi staff, diweddarwyd ein gwefan ac gallwch ddarllen yr erthygl yn esbonio’r newidiadau, fel y gallwch ddeall sut y gallwch roi adborth am unrhyw bryderon a materion.
Llwydni a chyddwysiad
Pan fydd gennych chi broblem, byddwn yn sicrhau ein bod yn asesu difrifoldeb y broblem, gan ddelio â hi mewn ffordd briodol. Wrth i ni glywed mwy am eich profiadau, rydym yn casglu data y byddwn yn ei ddefnyddio er mwyn parhau i wella’r ffordd yr ydym yn nodi ac yn trin llwydni a chyddwysiad, sut y gallwn sicrhau help yn y ffordd gyflymaf i’r rhai y mae ei angen arnynt fwyaf, a phenderfynu ar y ffordd orau o fuddsoddi yn ein cartrefi dros y tymor hir.
Gwelliannau i’r system
Rydym wedi adolygu’r ffordd yr ydym yn delio â Grantiau Addasiadau Ffisegol (GAFf), ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) a gwaith trwsio.
- Ailgynlluniwyd y system GAFf er mwyn canolbwyntio’n fwy ar yr hyn sy’n bwysig i breswylwyr. Mae hyn wedi cyflymu’r broses ac mae’n golygu ein bod yn gallu helpu mwy o breswylwyr. Bellach, rydym yn dymuno datblygu trefniadau adrodd gwell er mwyn cynyddu’r capasiti ymhellach.
- Mae’r gwaith ar YG yn parhau ac mae staff tai yn cael gwahanol sgyrsiau gyda phreswylwyr er mwyn mynd i wraidd y problemau go iawn. Maent hefyd yn ystyried sut yr adroddir am hyn yn ein systemau er mwyn deall taith y preswylydd.
- Mae staff yng Nghaerdydd yn treialu ffordd newydd gyda gwaith trwsio, sy’n golygu y gallwn drefnu mwy o waith trwsio, a fydd yn caniatáu i ni gyrraedd preswylwyr yn gyflymach. Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweithwyr Cambria i ganfod rhagor o ffyrdd o wella’r system ymhellach.
Diweddariadau ffôn a TG
Mae’r Tîm Technoleg wedi gwneud gwelliannau i’n llinellau ffôn. Bellach, gall staff gael gwybodaeth am denantiaethau a debyd uniongyrchol ar eu ffonau symudol wrth ymweld â chi yn eich cartrefi.
Beth nesaf?
Cyhoeddwyd ein Cynllun Busnes 2024-28 newydd, sy’n rhestru ein blaenoriaethau ar draws ein holl wasanaethau.
Mae ein blaenoriaethau dros y chwe mis nesaf yn cynnwys:
Casglu gwybodaeth am breswylwyr
Ein nod yw darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n addas, sy’n hygyrch ac sy’n deg. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni ddeall y bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, fel y gallwn helpu staff i deilwra gwasanaethau a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn ffordd deg. Rydym wedi adolygu ein gwybodaeth i breswylwyr ac mae gennym rai bylchau, felly byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau bod y wybodaeth yr ydym yn ei dal yn gywir.
Cwynion
Fel y soniwyd yn flaenorol, rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn delio â chwynion. Mae ein staff yn cofnodi mwy o wybodaeth pan gaiff cwyn ei gwneud. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddysgu gwersi a gwella a theilwra ein gwasanaethau.
Gwella ein gwasanaeth trwsio
Hyd yn hyn, rydym wedi ystyried y ffordd yr ydym yn rheoli gwaith trwsio arferol o’r adeg pan fyddwch yn adrodd amdano, trwy’r broses gynllunio ac amserlennu, i’r cam o gwblhau’r gwaith. Yn dilyn peilot llwyddiannus yng Nghaerdydd, ein nod yw cyflwyno’r dull newydd hwn o weithio ar draws mathau eraill o waith trwsio ac ardaloedd eraill.
Gofalu am ein cartrefi
Rydym wedi diwygio ein cynlluniau i ofalu am eich cartrefi, yr hyn yr ydym yn ei alw ein Strategaeth Rheoli Asedau. Mae’n nodi’r ffordd yr ydym yn barnu perfformiad ein cartrefi a sut yr ydym yn penderfynu buddsoddi ynddynt. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud buddsoddiadau yn y dyfodol i wella pa mor effeithlon y mae eich cartrefi yn defnyddio ynni.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwelliannau i’r system osod
Rydym wastad yn ceisio gwella’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau, er mwyn eu gwneud yn haws ac yn fwy effeithlon. Rydym yn gweithio gyda chi, ein preswylwyr, ar y pethau sy’n bwysig i chi. Rydym yn parhau i ymwreiddio’r hyn a ddysgwyd yn ystod yr adolygiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydym hefyd yn dechrau adolygu gweithgarwch gosod.
Peidiwch ag anghofio, os hoffech gymryd rhan neu ddweud eich dweud, mae sawl ffordd o wneud hyn – www.wwha.co.uk/cy/cysylltu/dweud-eich-dweud